Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 26:7-11 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

1 Samuel 26:7-11 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Felly ar ôl iddi nosi, dyma Dafydd ac Abishai yn mynd i ganol y milwyr. A dyna lle roedd Saul yn cysgu. Roedd ei waywffon wedi’i gwthio i’r ddaear wrth ei ben, ac roedd Abner a’r milwyr yn gorwedd o’i gwmpas. “Mae Duw wedi rhoi dy elyn yn dy afael di heddiw,” meddai Abishai wrth Dafydd. “Gad i mi ei drywanu a’i hoelio i’r ddaear gyda’r waywffon. Un ergyd sydd ei angen.” Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Na, paid â’i ladd! Alli di ddim gwneud niwed i’r un mae’r ARGLWYDD wedi’i eneinio’n frenin a bod yn ddieuog! Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn ei daro. Naill ai bydd ei amser yn dod, a bydd e’n marw, neu bydd e’n mynd i ryfel ac yn cael ei ladd. Duw am helpo rhag i mi wneud niwed i’r un mae’r ARGLWYDD wedi’i eneinio’n frenin! Tyrd, cymer y waywffon sydd wrth ei ben, a’i botel ddŵr, a gad i ni fynd o ma.”

1 Samuel 26:7-11 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Aeth Dafydd ac Abisai i blith y milwyr liw nos, a dyna lle'r oedd Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y canol, a'i waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear yn ymyl ei ben, ac Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i amgylch. Dywedodd Abisai wrth Ddafydd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi dy elyn heddiw yn dy law; gad imi ei drywanu i'r ddaear â'r waywffon ag un ergyd; ni fydd angen ail.” Ond dywedodd Dafydd wrth Abisai, “Paid â'i ladd. Pwy a fedr estyn llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD a bod yn ddieuog?” Ac ychwanegodd Dafydd, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, bydd yr ARGLWYDD yn sicr o'i daro; un ai fe ddaw ei amser, a bydd farw, neu ynteu fe â i frwydr a cholli ei fywyd. Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag i mi estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD. Cymer di y waywffon sydd wrth ei ben, a'i gostrel ddŵr, ac fe awn.”

1 Samuel 26:7-11 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos. Ac wele Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y wersyllfa, a’i waywffon wedi ei gwthio i’r ddaear wrth ei obennydd ef: ac Abner a’r bobl oedd yn gorwedd o’i amgylch ef. Yna y dywedodd Abisai wrth Dafydd, DUW a roddes heddiw dy elyn yn dy law di: yn awr gan hynny gad i mi ei daro ef, atolwg, â gwaywffon, hyd y ddaear un waith, ac nis aildrawaf ef. A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifetha ef: canys pwy a estynnai ei law yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD, ac a fyddai ddieuog? Dywedodd Dafydd hefyd, Fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, naill ai yr ARGLWYDD a’i tery ef; ai ei ddydd ef a ddaw i farw; ai efe a ddisgyn i’r rhyfel, ac a ddifethir. Yr ARGLWYDD a’m cadwo i rhag estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD: ond yn awr, cymer, atolwg, y waywffon sydd wrth ei obennydd ef, a’r llestr dwfr, ac awn ymaith.