1 Samuel 17:45-51
1 Samuel 17:45-51 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti’n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i’n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD hollbwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti’n ei herio. Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i’n mynd i dy ladd di a thorri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw. A bydd pawb sydd yma yn dod i weld mai nid gyda chleddyf a gwaywffon mae’r ARGLWYDD yn achub. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e’n eich rhoi chi yn ein gafael ni.” Dyma’r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i’w gyfarfod. Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a’i hyrddio at y Philistiad gyda’i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr. (Dyna sut wnaeth Dafydd guro’r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!) Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe’n tynnu cleddyf y Philistiad allan o’r wain, ei ladd, a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi’i ladd, dyma nhw’n ffoi.
1 Samuel 17:45-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, “Yr wyt ti'n dod ataf fi â chleddyf a gwaywffon a chrymgledd; ond yr wyf fi'n dod atat ti yn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Duw byddin Israel, yr wyt ti wedi ei herio. Y dydd hwn bydd yr ARGLWYDD yn dy roi yn fy llaw; lladdaf di a thorri dy ben i ffwrdd, a rhoi celanedd llu'r Philistiaid heddiw i adar yr awyr a bwystfilod y ddaear, er mwyn i'r byd i gyd wybod fod Duw gan Israel, ac i'r holl gynulliad hwn wybod nad trwy gleddyf na gwaywffon y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu, oherwydd yr ARGLWYDD biau'r frwydr, ac fe'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.” Yna pan gychwynnodd y Philistiad tuag at Ddafydd, rhedodd Dafydd yn chwim ar hyd y rheng i gyfarfod y Philistiad; rhoddodd ei law yn y bag a chymryd carreg allan a'i hyrddio, a tharo'r Philistiad yn ei dalcen nes bod y garreg yn suddo i'w dalcen; syrthiodd yntau ar ei wyneb i'r llawr. Felly trechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl a charreg, a'i daro'n farw, heb fod ganddo gleddyf. Yna rhedodd Dafydd a sefyll uwchben y Philistiad; cydiodd yn ei gleddyf ef a'i dynnu o'r wain, a rhoi'r ergyd olaf iddo a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr yn farw, ffoesant
1 Samuel 17:45-51 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw ARGLWYDD y lluoedd, DUW byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti. Y dydd hwn y dyry yr ARGLWYDD dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod DUW yn Israel. A’r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr ARGLWYDD: canys eiddo yr ARGLWYDD yw y rhyfel, ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni. A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd; yna y brysiodd Dafydd, ac a redodd tua’r fyddin i gyfarfod â’r Philistiad. A Dafydd a estynnodd ei law i’r god, ac a gymerth oddi yno garreg, ac a daflodd, ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen; a’r garreg a soddodd yn ei dalcen ef: ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb. Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl ac â charreg, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd. Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a’i tynnodd o’r wain, ac a’i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o’u cawr hwynt hwy a ffoesant.