1 Samuel 17:4-7
1 Samuel 17:4-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth milwr o’r enw Goliath o dref Gath allan o wersyll y Philistiaid i herio’r Israeliaid. Roedd e dros naw troedfedd o daldra! Roedd yn gwisgo helmed bres, arfwisg bres oedd yn pwyso bron chwe deg cilogram, a phadiau pres ar ei goesau. Roedd cleddyf cam pres yn hongian dros ei ysgwydd. Roedd coes ei waywffon fel trawst ffrâm gwehydd, a’i phig haearn yn pwyso tua saith cilogram. Ac roedd gwas yn cario’i darian o’i flaen.
1 Samuel 17:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O wersyll y Philistiaid daeth allan heriwr o'r enw Goliath, dyn o Gath, ac yn chwe chufydd a rhychwant o daldra. Yr oedd ganddo helm bres am ei ben, ac yr oedd wedi ei wisgo mewn llurig emog o bres, yn pwyso pum mil o siclau. Yr oedd coesarnau pres am ei goesau a chrymgledd pres rhwng ei ysgwyddau. Yr oedd paladr ei waywffon fel carfan gwehydd, a'i blaen yn chwe chan sicl o haearn. Yr oedd cludydd tarian yn cerdded o'i flaen.
1 Samuel 17:4-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a’i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant. A helm o bres ar ei ben, a llurig emog a wisgai: a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres. A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau. A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o’i flaen ef.