1 Pedr 4:17-18
1 Pedr 4:17-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n bryd i’r farn ddechrau, a phobl Dduw ydy’r rhai cyntaf i gael eu barnu. Ac os ydyn ni’n cael ein barnu gyntaf, beth fydd yn digwydd i’r rhai hynny sydd ddim yn ufudd i newyddion da Duw? Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Os mai o drwch blewyn mae’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dianc beth ddaw o bobl annuwiol sy’n anufudd i Dduw?”
1 Pedr 4:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd y mae'n bryd i'r farn ddechrau, a dechrau gyda theulu Duw. Ac os gyda ni yn gyntaf, beth fydd diwedd y rhai sy'n anufudd i Efengyl Duw? Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Ac os o'r braidd yr achubir y cyfiawn, ple bydd yr annuwiol a'r pechadur yn sefyll?”
1 Pedr 4:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw? Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur?