1 Pedr 3:1-7
1 Pedr 3:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyna’n union sut dylech chi’r gwragedd priod ymostwng i’ch gwŷr. Wedyn bydd y dynion hynny sy’n gwrthod credu neges Duw yn cael eu hennill gan y ffordd dych chi’n ymddwyn, heb i chi orfod dweud gair. Byddan nhw’n dod i gredu wrth weld eich bywydau duwiol a glân chi. Dim y colur ar y tu allan sy’n eich gwneud chi’n ddeniadol, na phethau fel steil gwallt, tlysau aur a dillad ffasiynol. Beth sy’n bwysig ydy’r hyn ydych chi’r tu mewn – y math o harddwch fydd byth yn diflannu, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna beth sy’n werthfawr yng ngolwg Duw. Dyna sut roedd gwragedd duwiol y gorffennol yn gwneud eu hunain yn hardd. Roedd eu gobaith nhw yn Nuw ac roedden nhw’n ymostwng i’w gwŷr. Roedd Sara, er enghraifft, yn ufudd i Abraham (ac yn ei alw’n ‘meistr’). Dych chi i fod yr un fath â hi, felly gwnewch ddaioni a pheidiwch bod ofn dim byd. Agwedd felly ddylai fod gynnoch chi wŷr hefyd. Dylech feddwl bob amser am les eich gwragedd, a’u parchu nhw a gofalu amdanyn nhw, fel y partner gwannaf yn gorfforol. Mae’n rhaid cofio eich bod chi’ch dau yn rhannu’r bywyd mae Duw wedi’i roi mor hael. Os na wnewch chi hyn fydd Duw ddim yn gwrando ar eich gweddïau chi.
1 Pedr 3:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn yr un modd, chwi wragedd priod, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr; ac yna, os oes rhai sy'n anufudd i'r gair, fe'u henillir hwy trwy ymarweddiad eu gwragedd, heb i chwi ddweud yr un gair, wedi iddynt weld eich ymarweddiad pur a duwiolfrydig. Boed ichwi'n addurn, nid pethau allanol fel plethu gwallt, ymdaclu â thlysau aur, ymharddu â gwisgoedd, ond cymeriad cêl y galon a'i degwch di-dranc, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna sy'n werthfawr yng ngolwg Duw. Oherwydd felly hefyd y byddai'r gwragedd sanctaidd gynt, a oedd yn gobeithio yn Nuw, yn eu haddurno eu hunain; byddent yn ymddarostwng i'w gwŷr, fel yr ufuddhaodd Sara i Abraham a'i alw'n arglwydd. A phlant iddi hi ydych chwi, os daliwch ati i wneud daioni, heb ofni dim oll. Yn yr un modd, chwi wŷr, byddwch yn ystyriol yn eich bywyd priodasol; rhowch y parch dyladwy i'r wraig, gan mai hi yw'r llestr gwannaf, a chan eich bod yn gydetifeddion y gras sy'n rhoi bywyd. Felly, ni chaiff eich gweddïau mo'u rhwystro.
1 Pedr 3:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr un ffunud, bydded y gwragedd ostyngedig i’w gwŷr priod; fel, od oes rhai heb gredu i’r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hennill hwy heb y gair, Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn. Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch-osodiad aur, neu wisgad dillad; Eithr bydded cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr. Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw, yn ymdrwsio, gan fod yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod; Megis yr ufuddhaodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd: merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn. Y gwŷr, yr un ffunud, cydgyfanheddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i’r wraig megis i’r llestr gwannaf, fel rhai sydd gyd-etifeddion gras y bywyd; rhag rhwystro eich gweddïau.