1 Pedr 1:6-7
1 Pedr 1:6-7 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly gallwch fod yn llawen, er bod pethau’n anodd ar hyn o bryd, a’ch bod chi’n gorfod dioddef pob math o dreialon. Mae’r pethau yma’n digwydd er mwyn dangos eich bod chi’n credu go iawn. Mae’r un fath â’r broses o buro aur mewn ffwrnais, ond bod ffydd yn rhywbeth llawer mwy gwerthfawr nag aur. Byddwch yn derbyn canmoliaeth, ysblander ac anrhydedd pan fydd Iesu Grist yn dod i’r golwg eto.
1 Pedr 1:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn wyneb hyn yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod, fe ddichon, yn awr yn profi blinder dros dro dan amrywiol brofedigaethau. Y mae hyn wedi digwydd er mwyn i ddilysrwydd eich ffydd chwi, sy'n fwy gwerthfawr na'r aur sy'n darfod—ac y mae hwnnw'n cael ei brofi trwy dân—gael ei amlygu er mawl a gogoniant ac anrhydedd pan ddatguddir Iesu Grist.
1 Pedr 1:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau: Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist