1 Pedr 1:24-25
1 Pedr 1:24-25 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Achos, “Mae pobl feidrol fel glaswellt, a’u holl harddwch fel blodyn gwyllt – mae’r glaswellt yn gwywo a’r blodyn yn syrthio, ond mae neges yr Arglwydd yn aros am byth.” A’r neges yna ydy’r newyddion da gafodd ei bregethu i chi.
1 Pedr 1:24-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl ogoniant fel blodeuyn y maes. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn syrthio, ond y mae gair yr Arglwydd yn aros am byth.”
1 Pedr 1:24-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrthiodd: Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw’r gair a bregethwyd i chwi.