1 Pedr 1:22-23 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
1 Pedr 1:22-23 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Am eich bod chi bellach yn dilyn y gwir, dych chi wedi cael eich gwneud yn lân ac yn dangos gofal go iawn am eich gilydd. Felly daliwch ati i garu eich gilydd, a hynny o waelod calon. Wedi’r cwbl, dych chi wedi cael eich geni o’r newydd! Mae’r bywyd dych chi wedi’i dderbyn gan eich rhieni yn rhywbeth sy’n darfod, ond mae’r bywyd newydd yn para am byth. Mae neges Duw wedi’i phlannu ynoch chi, ac mae hi’n neges sy’n rhoi bywyd ac sy’n aros am byth.
1 Pedr 1:22-23 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan eich bod, trwy eich ufudd-dod i'r gwirionedd, wedi puro eich eneidiau nes ennyn brawdgarwch diragrith, carwch eich gilydd o galon bur yn angerddol. Yr ydych wedi eich geni o'r newydd, nid o had llygradwy, ond anllygradwy, trwy air Duw, sydd yn fyw ac yn aros.
1 Pedr 1:22-23 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwedi puro eich eneidiau, gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth: Wedi eich aileni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd.