1 Pedr 1:12
1 Pedr 1:12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Esboniwyd iddyn nhw fod y pethau hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn eu cyfnod nhw, ond yn y dyfodol, yn ein cyfnod ni. A bellach mae’r cwbl wedi’i rannu gyda chi gan y rhai sydd wedi dod â’r newyddion da i chi, gyda nerth yr Ysbryd Glân gafodd ei anfon o’r nefoedd. Mae’r angylion hyd yn oed yn ysu am gael deall y pethau hyn yn well.
1 Pedr 1:12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Datguddiwyd i'r proffwydi hyn nad arnynt eu hunain ond arnoch chwi yr oeddent yn gweini wrth sôn am y pethau sydd yn awr wedi eu cyhoeddi i chwi gan y rhai a bregethodd yr Efengyl i chwi drwy nerth yr Ysbryd Glân, a anfonwyd o'r nef. Pethau yw'r rhain y mae angylion yn chwenychu edrych arnynt.
1 Pedr 1:12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
I’r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o’r nef; ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych.