Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 9:3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

1 Brenhinoedd 9:3 BNET (beibl.net 2015, 2024)

A dyma fe’n dweud, “Dw i wedi clywed dy weddïau a’r cwbl roeddet ti’n gofyn i mi ei wneud. A dw wedi cysegru’r deml yma rwyt ti wedi’i hadeiladu yn lle i mi fy hun am byth. Bydda i yna bob amser.

1 Brenhinoedd 9:3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Clywais dy weddi a'th ddeisyfiad a wnaethost ger fy mron; cysegrais y tŷ hwn a godaist, a gosod f'enw yno am byth, a bydd fy llygaid a'm calon tuag yno hyd byth.

1 Brenhinoedd 9:3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol.