Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 7:1-51

1 Brenhinoedd 7:1-51 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond roedd palas Solomon wedi cymryd un deg tair o flynyddoedd i’w adeiladu. Galwodd e’n Blas Coedwig Libanus. Roedd yn bedwar deg pedwar metr o hyd, dau ddeg dau metr o led ac un deg tri metr a hanner o uchder. Roedd tair rhes o bileri cedrwydd ynddo, ac ar ben y pileri roedd trawstiau o gedrwydd. Wedyn roedd to o gedrwydd uwchben y trawstiau oedd yn gorwedd ar y pedwar deg pum piler (un deg pump ym mhob rhes). Ac roedd yna dri set o dair o ffenestri’n wynebu’i gilydd. Roedd fframiau’r drysau a’r ffenestri’n siâp petryal. Roedd yna neuadd golofnog oedd yn ddau ddeg dau metr o hyd ac un deg tri metr a hanner o led. O flaen hon roedd cyntedd gyda pileri a chanopi drosto. Yna gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle roedd yn barnu’r bobl (y Neuadd Farn). Roedd hi’n goed cedrwydd i gyd o’r llawr i’r to. Roedd y tŷ lle roedd Solomon yn byw yr ochr draw i iard oedd tu cefn i’r Neuadd yma, ac wedi’i adeiladu i gynllun tebyg. Roedd e hefyd wedi adeiladu palas arall tebyg i’w wraig, sef merch y Pharo. Roedd yr adeiladau i gyd wedi’u codi’n gyfan gwbl gyda’r cerrig gorau, oedd wedi’u naddu i’w maint a’u llyfnhau wedyn gyda llif. Ac roedd yr iard fawr y tu allan yr un fath. Roedd y sylfeini wedi’u gwneud o gerrig anferth drudfawr, rhai yn mesur pedwar metr a hanner, a rhai eraill yn dri metr a hanner. Ar y sylfeini hynny roedd popeth wedi’i adeiladu gyda’r cerrig gorau, pob un wedi’i naddu i’r maint cywir, a gyda choed cedrwydd. O gwmpas yr iard fawr roedd wal wedi’i hadeiladu gyda thair rhes o gerrig wedi’u naddu ac yna paneli o goed cedrwydd. Roedd yr un fath â iard fewnol a chyntedd Teml yr ARGLWYDD. Yna dyma’r Brenin Solomon yn anfon i Tyrus am ddyn o’r enw Hiram. Roedd Hiram yn grefftwr medrus, profiadol yn gweithio gyda pres. Roedd yn fab i wraig weddw o lwyth Nafftali, ac roedd ei dad (oedd yn dod o Tyrus) wedi bod yn weithiwr pres o’i flaen. Roedd gan Hiram allu arbennig i drin pres. Daeth at y Brenin Solomon a gwneud yr holl waith pres iddo. Hiram wnaeth y ddau biler pres – oedd bron naw metr o uchder a dau fetr ar draws. Yna gwnaeth gapiau i’w gosod ar dop y ddau biler. Roedd y capiau yma, o bres wedi’i gastio, dros ddau fetr o uchder. Roedd rhwyllwaith gyda saith rhes o batrymau tebyg i gadwyni wedi’u plethu o gwmpas y capiau, a hefyd dwy res o bomgranadau, nes bod top y pileri wedi’u gorchuddio. Roedd top y ddau biler yn y cyntedd yn agor allan yn siâp lilïau oedd bron dau fetr o uchder. Ar dop y ddau biler, uwchben y darn crwn gyda’r patrymau o gadwyni wedi’u plethu, roedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o’u cwmpas. Dyma Hiram yn gosod y ddau biler yn y cyntedd o flaen y brif neuadd yn y deml. Galwodd yr un ar y dde yn Iachîn a’r un ar y chwith yn Boas. Roedd top y pileri yn agor allan yn siâp lilïau. Felly cafodd y gwaith ar y pileri ei orffen. Yna dyma fe’n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi’i wneud o bres wedi’i gastio, ac yn cael ei alw ‘Y Môr’. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i’r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o’i hamgylch. O gwmpas ‘Y Môr’, o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach siâp ffrwyth cicaion, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner. Roedd ‘Y Môr’ wedi’i osod ar gefn un deg dau o ychen. Roedd tri yn wynebu tua’r gogledd, tri tua’r gorllewin, tri tua’r de a thri tua’r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda’u cynffonnau at i mewn. Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal tua pedwar deg pum mil litr o ddŵr. Gwnaeth Hiram ddeg troli ddŵr o bres hefyd. Roedd pob un yn ddau fetr o hyd, yn ddau o led a bron yn fetr a hanner o uchder. Dyma gynllun y trolïau: roedd ganddyn nhw fframiau yn dal paneli ar yr ochr. Roedd y paneli wedi’u haddurno gyda lluniau o lewod, ychen a cherwbiaid. Ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a’r ychen, roedd patrymau wedi’u plethu. Roedd gan bob troli bedair olwyn bres ar echelau pres. Ar bob cornel roedd silff fach i’r ddysgl eistedd arni. Roedd y rhain yn rhan o’r troli ac wedi’u haddurno gyda phlethiadau. Tu mewn i’r troli roedd ffrâm crwn, pedwar deg pump centimetr o ddyfnder, i ddal y ddysgl. Roedd yn gylch saith deg centimetr ar draws. O gwmpas y geg roedd border o addurniadau. Roedd y paneli’n sgwâr ac nid crwn. Roedd pedair olwyn o dan y paneli, ac roedd soced i ddal echel pob olwyn yn sownd yn y ffrâm. Saith deg centimetr oedd uchder yr olwynion. Roedd yr olwynion wedi’u gwneud fel olwynion cerbyd rhyfel. Roedd yr echel, yr ymyl, y sbôcs a’r both i gyd o fetel wedi’i gastio. Roedd pedair silff fach ar bedair cornel y troli, ac roedd y silffoedd wedi’u gwneud yn rhan o’r ffrâm. Ar dop y troli roedd cylch crwn dau ddeg centimetr o uchder. Ar ei dop hefyd roedd cylchoedd a phaneli yn sownd ynddo. Roedd wedi cerfio cerwbiaid, llewod a choed palmwydd ar y paneli roedd y cylchoedd yn sownd iddyn nhw. Roedd y rhain wedi’u cerfio ble bynnag roedd lle iddyn nhw, ac o’u cwmpas nhw roedd patrymau wedi’u plethu. Roedd y deg troli dŵr yr un fath. Roedd wedi defnyddio’r un mowld. Roedd pob un yr un maint a’r un siâp. Yna dyma fe’n gwneud deg dysgl bres. Roedd pob dysgl yn ddau fetr o led ac yn dal wyth gant wyth deg litr. Roedd un ddysgl ar gyfer pob un o’r deg troli. Dyma fe’n gosod pum troli ar ochr y de yn y deml, a phump ar ochr y gogledd. Roedd ‘Y Môr’ yn y gornel oedd i’r de-ddwyrain o’r deml. Dyma Hiram hefyd yn gwneud dysglau, rhawiau a phowlenni. Gorffennodd y cwbl o’r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi’i roi iddo i’w wneud ar deml yr ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i’w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi’u plethu i fynd dros y capiau, pedwar cant o bomgranadau i’w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi’u plethu ar y capiau ar ben y pileri. Hefyd y deg troli ddŵr, a’r deg dysgl i fynd ar y deg troli, y basn anferth oedd yn cael ei alw ‘Y Môr’, gyda’r un deg dau o ychen oddi tano, a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a phowlenni taenellu. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i’r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi’u gwneud o bres gloyw. Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sarethan, yn ardal yr Iorddonen. Wnaeth Solomon ddim pwyso’r cwbl am fod cymaint ohonyn nhw; does dim posib gwybod beth oedd eu pwysau. Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, y bwrdd aur roedden nhw’n gosod y bara cysegredig arno o flaen yr ARGLWYDD, y canwyllbrennau o aur pur wrth y fynedfa i’r gell fewnol gysegredig (pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith). Hefyd roedd y blodau, y lampau a’r gefeiliau wedi’u gwneud o aur. Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a’r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi’r drysau i’r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi’u gwneud o aur hefyd. Wedi i’r Brenin Solomon orffen adeiladu’r deml i’r ARGLWYDD, dyma fe’n dod â’r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi’u cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a’u rhoi yn stordai teml yr ARGLWYDD.

1 Brenhinoedd 7:1-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Tair blynedd ar ddeg y bu Solomon yn adeiladu ei dŷ ei hun cyn ei orffen yn llwyr. Adeiladodd Dŷ Coedwig Lebanon, yn gan cufydd o hyd, yn hanner can cufydd o led, a deg cufydd ar hugain o uchder, ar dair rhes o golofnau cedrwydd, gyda thrawstiau cedrwydd ar ben y colofnau. To o gedrwydd oedd uwchben y tulathau ar y pum colofn a deugain, a safai pymtheg ym mhob rhes. Ac yr oedd tair rhes o ffenestri yn wynebu ei gilydd fesul tair. Yr oedd fframiau sgwâr i'r holl ddrysau, ac i'r ffenestri oedd yn wynebu ei gilydd fesul tair. Gwnaeth Neuadd y Colofnau hefyd, yn hanner can cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led, a chyntedd o'i blaen gyda cholofnau, a chornis uwchben. Gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle'r oedd yn gweinyddu barn, sef y Neuadd Barn, wedi ei phanelu â chedrwydd o'r llawr i'r distiau. Ac yr oedd ei dŷ annedd ei hun ar y cwrt arall yn nes i mewn na'r neuadd, ond o'r un gwneuthuriad. Gwnaeth Solomon hefyd dŷ yr un fath â'r neuadd hon i'w briod, merch Pharo. Yr oedd y rhai hyn i gyd, y tu mewn a'r tu allan, o feini trymion, wedi eu torri i fesur a'u llifio, o'r sylfaen i'r bondo, o gwrt tŷ'r ARGLWYDD, hyd y cwrt mawr. Yr oedd y sylfeini o feini mawr, trymion, rhai o wyth a rhai o ddeg cufydd; ac uwchben, meini trymion wedi eu torri i fesur, a chedrwydd. Yr oedd gan y cwrt mawr dri chwrs o gerrig nadd a chwrs o drawstiau cedrwydd, a'r un modd cwrt mewnol tŷ'r ARGLWYDD hyd borth y tŷ. Anfonodd y Brenin Solomon i Tyrus i gyrchu Hiram, mab i wraig weddw o lwyth Nafftali, a'i dad yn hanu o Tyrus. Gof pres cywrain a deallus oedd ef, yn gwybod sut i wneud pob math o waith pres; a daeth at y Brenin Solomon a gwneud ei holl waith. Bwriodd ddwy golofn bres, deunaw cufydd o uchder, gyda chylchlin o ddeuddeg cufydd yr un; yr oeddent yn wag o'r tu mewn, a'r deunydd yn bedair modfedd o drwch. Gwnaeth ddau gnap o bres tawdd i'w gosod ar ben y colofnau, y naill a'r llall yn bum cufydd o uchder. Yna gwnaeth rwydwaith a phlethiadau o gadwynwaith i'r naill a'r llall o'r cnapiau ar ben y colofnau. Gwnaeth bomgranadau yn ddwy res ar y rhwydwaith o'i amgylch, i guddio'r cnapiau ar ben y naill golofn a'r llall. Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn y porth yn waith lili am bedwar cufydd. Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn codi o'r cylch crwn oedd gogyfer â'r rhwydwaith, ac yr oedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o gylch y ddau gnap. Gosododd y colofnau ym mhorth y deml; cododd y golofn dde a'i galw'n Jachin, yna cododd y golofn chwith a'i galw'n Boas. Ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili; ac fel hyn y gorffennwyd gwaith y colofnau. Yna fe wnaeth y môr o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch. O amgylch y môr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd ar hugain, yr oedd cnapiau; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono. Safai'r môr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de, a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn. Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili; yr oedd yn dal dwy fil o bathau. Gwnaeth hefyd ddeg o drolïau pres, yn bedwar cufydd o hyd a phedwar cufydd o led a thri chufydd o uchder. Yng ngwneuthuriad y trolïau yr oedd panelau rhwng fframiau, ac ar y panelau hyn yr oedd llewod ac ychen a cherwbiaid. Ac yr oedd plethennau o riswaith ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen. Yr oedd gan bob troli bedair olwyn bres ac echelau pres, ac ysgwyddau dan eu pedair congl ar gyfer y noe, a'r ysgwyddau yn waith tawdd, a phlethennau wrth bob un. Yr oedd ei genau oddi mewn i gorongylch, yn gufydd o uchder, a'r genau yn gylch cufydd a hanner, fel gwneuthuriad soced. Yr oedd cerfiadau o gwmpas y genau, a'r panelau yn sgwâr, nid yn grwn. Yr oedd y pedair olwyn o dan y panelau, a phlatiau echel yr olwynion yn y ffrâm; cufydd a hanner oedd uchder pob olwyn. Yr oedd yr olwynion wedi eu gwneud fel olwyn cerbyd, a'u hechelau a'u camegau a'u ffyn a'u bothau i gyd yn waith tawdd. Ac yr oedd pedair ysgwydd ym mhedair congl pob troli, a'r ysgwyddau yn un darn â'r troli. Ac ar ben y troli yr oedd cylch crwn hanner cufydd o uchder, a'r platiau echel a'r panelau yn un darn â hi. Ar wyneb y platiau a'r panelau cerfiodd gerwbiaid, llewod a phalmwydd, a phlethennau o amgylch pob un. Fel hyn y gwnaeth y deg troli, gyda'r un mold, yr un maint a'r un ffurf i bob un. Hefyd fe wnaeth ddeg noe bres i ddal deugain bath yr un, pob noe yn bedwar cufydd. Gosododd hwy bob yn un ar y deg troli, pum troli ar ochr dde y tŷ, a phump ar yr ochr chwith; a gosododd y môr ar ochr dde-ddwyrain y tŷ. Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen yr holl waith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD: y ddwy golofn, y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; y deg troli; y deg noe ar y trolïau; y môr a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw. Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Sarethan yng ngwastadedd yr Iorddonen. Peidiodd Solomon â phwyso'r holl lestri gan mor niferus oeddent, ac na ellid pwyso'r pres. A gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ'r ARGLWYDD: yr allor aur a'r bwrdd aur i ddal y bara gosod; y canwyllbrennau o aur pur, pump ar y dde a phump ar y chwith o flaen y cysegr mewnol; y blodau a'r llusernau a'r gefeiliau aur; y ffiolau, y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau hefyd o aur pur; a'r socedau aur i'r dorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf ac i'r dorau o fewn y côr. Wedi i'r Brenin Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhŷ'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r offer, a'u gosod yn nhrysordai tŷ'r ARGLWYDD.

1 Brenhinoedd 7:1-51 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg, ac a orffennodd ei holl dŷ. Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau. Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymtheg yn y rhes. Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc. A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwâr, felly yr oedd y ffenestri; a golau ar gyfer golau, yn dair rhenc. Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a’r porth oedd o’u blaen hwynt; a’r colofnau eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau. Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gwr i’r llawr hyd y llall. Ac i’w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewn y porth o’r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a briodasai Solomon, fel y porth hwn. Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a’u lladd â llif, oddi fewn ac oddi allan, a hynny o’r sylfaen hyd y llogail; ac felly o’r tu allan hyd y cyntedd mawr. Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd, ac â meini o wyth gufydd. Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a chedrwydd. Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhes o gerrig nadd, a rhes o drawstiau cedrwydd, i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD oddi fewn, ac i borth y tŷ. A’r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus. Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a’i dad yn ŵr o Tyrus: gof pres ydoedd efe; a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd ei holl waith ef. Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o’r ddwy. Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i’w rhoddi ar bennau y colofnau; pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall. Efe a wnaeth rwydwaith, a phlethiadau o gadwynwaith, i’r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i’r naill gnap, a saith i’r cnap arall. Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith, i guddio’r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i’r cnap arall. A’r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cufydd. Ac i’r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a’r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall. Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a alwodd ei henw hi Boas. Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofnau. Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn oddi amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch. A chnapiau a’i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch, deg mewn cufydd oedd yn amgylchu’r môr o amgylch: y cnapiau oedd yn ddwy res, wedi eu bwrw pan fwriwyd yntau. Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri oedd yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u pennau ôl hwynt oll o fewn. Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau lili: dwy fil o bathau a annai ynddo. Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl, a phedwar cufydd ei lled, a thri chufydd ei huchder. A dyma waith yr ystolion: ystlysau oedd iddynt, a’r ystlysau oedd rhwng y delltennau: Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a cheriwbiaid; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a’r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau. A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad. A’i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a’i genau hi oedd grwn, ar waith yr ystôl, yn gufydd a hanner; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau, a’i hystlysau yn bedwar ochrog, nid yn grynion. A’r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystôl; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd. Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men; eu hechelau, a’u bothau, a’u camegau, a’u hadenydd, oedd oll yn doddedig. Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl: o’r ystôl yr oedd ei hysgwyddau hi. Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch, o hanner cufydd o uchder; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a’i thaleithiau o’r un. Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi, ac ar ei thaleithiau hi, geriwbiaid, llewod, a phalmwydd, wrth noethder pob un, a chysylltiadau oddi amgylch. Fel hyn y gwnaeth efe y deg ystôl: un toddiad, un mesur, ac un agwedd, oedd iddynt hwy oll. Gwnaeth hefyd ddeng noe bres: deugain bath a ddaliai pob noe; yn bedwar cufydd bob noe; ac un noe ar bob un o’r deg ystôl. Ac efe a osododd bum ystôl ar ystlys ddeau y tŷ, a phump ar yr ystlys aswy i’r tŷ: a’r môr a osododd efe ar y tu deau i’r tŷ, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau. Gwnaeth Hiram hefyd y noeau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Solomon yn nhŷ yr ARGLWYDD. Y ddwy golofn, a’r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn; a’r ddau rwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau; A phedwar cant o bomgranadau i’r ddau rwydwaith, dwy res o bomgranadau i un rhwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau; A’r deg ystôl, a’r deg noe ar yr ystolion; Ac un môr, a deuddeg o ychen dan y môr; A’r crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau; a’r holl lestri a wnaeth Hiram i’r brenin Solomon, i dŷ yr ARGLWYDD, oedd o bres gloyw. Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng Succoth a Sarthan. A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri, oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt: ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith. A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr ARGLWYDD; yr allor aur, a’r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno; A phum canhwyllbren o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, o flaen y gafell, yn aur pur; a’r blodau, a’r llusernau, a’r gefeiliau, o aur; Y ffiolau hefyd, a’r saltringau, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, o aur coeth; a bachau dorau y tŷ, o fewn y cysegr sancteiddiaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur. Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr ARGLWYDD. A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; yr arian, a’r aur, a’r dodrefn, a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr ARGLWYDD.