1 Brenhinoedd 4:1-34
1 Brenhinoedd 4:1-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Solomon yn frenin ar Israel gyfan. Dyma’i swyddogion: Asareia fab Sadoc oedd yr offeiriad. Elichoreff ac Achïa, meibion Shisha, oedd ei ysgrifenyddion. Jehosaffat fab Achilwd oedd y cofnodydd swyddogol. Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth y fyddin, a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid. Asareia fab Nathan oedd pennaeth swyddogion y rhanbarthau; yna Sabwd fab Nathan yn offeiriad ac yn gynghorwr y brenin. Achishar oedd yn rhedeg y palas a gofalu am holl eiddo’r brenin, ac Adoniram fab Afda oedd swyddog y gweithlu gorfodol. Yna roedd gan Solomon ddeuddeg swyddog rhanbarthol dros wahanol ardaloedd yn Israel. Roedden nhw’n gyfrifol am ddarparu bwyd i’r brenin a’i lys – pob un yn gyfrifol am un mis y flwyddyn. Dyma’u henwau nhw: Ben-chŵr: ar fryniau Effraim; Ben-decar: yn Macats, Shaalfîm, Beth-shemesh ac Elon-beth-chanan; Ben-chesed: yn Arwboth (roedd ei ardal e’n cynnwys Socho a holl ardal Cheffer); Ben-abinadab: yn Naffath-dor i gyd (roedd e wedi priodi Taffath, merch Solomon); Baana fab Achilwd: yn Taanach, Megido a’r rhan o Beth-shean sydd wrth ymyl Sarethan, o dan Jesreel. Roedd ei ardal yn mynd o Beth-shean hyd at Abel-mechola a’r tu hwnt i Iocmeam; Ben-geber: yn Ramoth-gilead. Roedd ei ardal e’n cynnwys gwersylloedd Jair mab Manasse, yn Gilead, ac ardal Argob yn Bashan oedd yn cynnwys chwe deg o drefi mawr, pob un gyda waliau cadarn a barrau pres ar eu giatiau; Achinadab fab Ido: yn Machanaîm; Achimaäts: yn Nafftali (fe wnaeth briodi Basemath, merch Solomon); Baana fab Chwshai: yn Asher ac yn Aloth; Jehosaffat fab Parŵach: yn Issachar; Shimei fab Ela: yn Benjamin; a Geber fab Wri: yn ardal Gilead (sef y wlad oedd yn perthyn ar un adeg i Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Bashan). Fe oedd yr unig swyddog yn y rhanbarth hwnnw i gyd. Roedd poblogaeth fawr yn Jwda ac Israel, roedd pobl fel y tywod ar lan y môr, ond roedd ganddyn nhw ddigon i’w fwyta a’i yfed ac roedden nhw’n hapus. Roedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl ardaloedd o afon Ewffrates i wlad y Philistiaid ac i lawr at y ffin gyda’r Aifft. Roedd y teyrnasoedd yma i gyd yn talu trethi iddo, ac yn gwasanaethu Solomon ar hyd ei oes. Dyma beth oedd ei angen ar lys Solomon bob dydd: – tri deg mesur o’r blawd gorau – chwe deg mesur o flawd cyffredin, – deg o loi wedi’u pesgi, – dau ddeg o loi oedd allan ar y borfa, – cant o ddefaid. Roedd hyn heb sôn am y ceirw, gaseliaid, iyrchod a gwahanol fathau o ffowls. Achos roedd y llys brenhinol mor fawr – roedd yn rheoli’r holl ardaloedd i’r gorllewin o Tiffsa ar lan afon Ewffrates i lawr i Gasa, ac roedd heddwch rhyngddo a’r gwledydd o’i gwmpas. Pan oedd Solomon yn fyw, roedd pawb yn Jwda ac Israel yn teimlo’n saff. Roedd gan bawb, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, gartref a thir i allu mwynhau cynnyrch eu gwinwydd a’u coed ffigys. Roedd gan Solomon hefyd stablau i ddal 40,000 o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo 12,000 o farchogion. Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim. Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i’w roi i’r ceffylau a’r meirch. Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr. Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a’r Aifft. Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nag Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy’r gwledydd o’i gwmpas i gyd. Roedd wedi llunio tair mil o ddiarhebion a chyfansoddi mil a phump o ganeuon. Roedd yn gallu siarad am blanhigion, o’r coed cedrwydd mawr yn Libanus i’r isop sy’n tyfu ar waliau. Roedd hefyd yn gallu sôn am anifeiliaid, adar, ymlusgiaid a phryfed a physgod. Roedd brenhinoedd y gwledydd i gyd yn anfon pobl at Solomon i wrando ar ei ddoethineb.
1 Brenhinoedd 4:1-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Solomon yn frenin ar holl Israel. Dyma weinidogion y goron: Asareia fab Sadoc yn offeiriad; Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, yn ysgrifenyddion; Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur; Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin; Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid; Asareia fab Nathan yn bennaeth y rhaglawiaid; Sabud fab Nathan, yr offeiriad, yn gyfaill y brenin; Ahisar yn arolygwr y tŷ; Adoniram fab Abda yn swyddog llafur gorfod. Yr oedd gan Solomon ddeuddeg rhaglaw yn holl Israel yn gofalu am ymborth y brenin a'i dŷ; am fis yn y flwyddyn y gofalai pob un am yr ymborth. Dyma'u henwau: Ben-hur yn ucheldir Effraim; Ben-decar yn Macas a Saalbim a Beth-semes ac Elon-beth-hanan; Ben-hesed yn Aruboth (ganddo ef yr oedd Socho a holl diriogaeth Heffer); Ben-abinadab yn holl Naffath-dor (Taffath, merch Solomon, oedd ei wraig); Baana fab Ahilud yn Taanach a Megido a holl Beth-sean, sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Beth-sean hyd Abel-mehola a thu hwnt i Jocmeam; Ben-geber yn Ramoth-gilead (ganddo ef yr oedd Hafoth-jair fab Manasse, sydd yn Gilead, a Hebel-argob, sydd yn Basan—trigain o ddinasoedd mawr â chaerau a barrau pres); Ahinadab fab Ido yn Mahanaim; Ahimaas yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, merch Solomon, yn wraig); Baana fab Jusai yn Aser ac Aloth; Jehosaffat fab Parus yn Issachar; Simei fab Ela yn Benjamin; Geber fab Uri yn nhiriogaeth Gilead (gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan). Yr oedd un prif raglaw dros y wlad. Yr oedd Jwda ac Israel mor niferus â'r tywod ar lan y môr; yr oeddent yn bwyta ac yn yfed yn llawen. Yr oedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon Ewffrates drwy wlad Philistia at derfyn yr Aifft, a hwythau'n dwyn teyrnged ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei fywyd. Ymborth beunyddiol Solomon oedd deg corus ar hugain o beilliaid a thrigain corus o flawd; deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen o'r borfa, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, gafrewigod, ewigod, a dofednod breision. Yr oedd yn llywodraethu'n frenin dros y gwledydd i'r gorllewin o'r Ewffrates, o Tiffsa hyd Gasa, dros yr holl frenhinoedd i'r gorllewin o'r afon. Cafodd heddwch ar bob tu, ac yr oedd Jwda ac Israel yn trigo'n ddiogel, holl ddyddiau Solomon, pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, o Dan hyd Beerseba. Yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau ar gyfer ei geffylau-cerbyd, a deuddeng mil o feirch. Gofalai'r rhaglawiaid hynny, pob un yn ei fis, am ymborth ar gyfer y Brenin Solomon a phawb a ddôi at ei fwrdd; nid oedd dim yn eisiau. Dygent hefyd haidd a gwellt i'r ceffylau a'r meirch cyflym, i'r man lle'r oedd i fod, pob un yn ôl a ddisgwylid ganddo. Rhoddodd Duw i Solomon ddoethineb a deall helaeth, ac amgyffrediad mor eang â thraeth y môr. Rhagorodd doethineb Solomon ar ddoethineb holl bobl y Dwyrain a'r Aifft; yr oedd yn ddoethach nag unrhyw un, hyd yn oed Ethan yr Esrahiad, neu Heman, Calcol a Darda, meibion Mahol; yr oedd ei fri wedi ymledu trwy'r holl genhedloedd oddi amgylch. Llefarodd dair mil o ddiarhebion, ac yr oedd ei ganeuon yn rhifo mil a phump. Traethodd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Lebanon hyd yr isop sy'n tyfu o'r pared; hefyd am anifeiliaid ac ehediaid, am ymlusgiaid a physgod. Daethant o bob cenedl i wrando doethineb Solomon, ac o blith holl frenhinoedd y ddaear a glywodd am ei ddoethineb.
1 Brenhinoedd 4:1-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel. A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad; Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oedd ysgrifenyddion; Jehosaffat mab Ahilud, yn gofiadur; Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid; Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben-llywydd, ac yn gyfaill i’r brenin; Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged. A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu. Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim. Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth-semes, ac Elon-bethanan. Mab Hesed, yn Aruboth: iddo ef yr oedd Socho, a holl dir Heffer. Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef. Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel-mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam. Mab Geber oedd yn Ramoth-gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres. Ahinadab mab Ido oedd ym Mahanaim. Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig. Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth. Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar. Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin. Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe. Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen. A Solomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef. A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd; Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision. Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa hyd Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch. Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer-seba, holl ddyddiau Solomon. Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch. A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim. Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch, ac i’r cyflym gamelod, i’r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran. A DUW a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr. A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft. Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch. Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a phump. Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod. Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.