Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 18:43 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

1 Brenhinoedd 18:43 BNET (beibl.net 2015, 2024)

A dyma fe’n dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dyma’r gwas yn mynd i edrych, a dweud, “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”.

1 Brenhinoedd 18:43 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yna dywedodd wrth ei lanc, “Dos di i fyny ac edrych tua'r môr.” Ac wedi iddo fynd ac edrych dywedodd, “Nid oes dim i'w weld.” A saith waith y dywedodd wrtho, “Dos eto.”

1 Brenhinoedd 18:43 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac a ddywedodd wrth ei lanc, Dos i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, Dos eto saith waith.