Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 18:36 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

1 Brenhinoedd 18:36 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pan ddaeth hi’n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i’n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i.

1 Brenhinoedd 18:36 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd.

1 Brenhinoedd 18:36 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A phan offrymid yr hwyr-offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn.