Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 18:21 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

1 Brenhinoedd 18:21 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chi’n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai’r ARGLWYDD ydy’r Duw go iawn, dilynwch e, ond os Baal ydy e, dilynwch hwnnw!” Ddwedodd neb yr un gair.

1 Brenhinoedd 18:21 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, “Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw.” Ond nid atebodd y bobl air iddo.

1 Brenhinoedd 18:21 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air.