Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 17:12 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

1 Brenhinoedd 17:12 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ond dyma hi’n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd i ti. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Rôn i wrthi’n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd olaf i mi a’m mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni’n llwgu.”

1 Brenhinoedd 17:12 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond meddai hi, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes gennyf yr un dorth, dim ond llond dwrn o flawd yn y celwrn a diferyn o olew yn y stên; casglu ychydig briciau yr oeddwn er mwyn eu paratoi i mi a'm mab i fwyta, ac yna trengi.”

1 Brenhinoedd 17:12 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD dy DDUW, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ystên: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw.