1 Brenhinoedd 13:16-18
1 Brenhinoedd 13:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma’r proffwyd yn ateb, “Alla i ddim mynd yn ôl gyda ti, na bwyta ac yfed dim yn y lle yma. Dwedodd yr ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta dim nac yfed dŵr yno, a phaid mynd adre’r ffordd aethost ti yno.’” Ond dyma’r hen broffwyd yn dweud, “Dw i hefyd yn broffwyd fel ti. Mae angel wedi rhoi neges i mi gan yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i am fynd â ti yn ôl adre gyda mi i ti gael rhywbeth i’w fwyta a’i yfed.” Ond dweud celwydd oedd e.
1 Brenhinoedd 13:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd y llall, “Ni fedraf ddychwelyd gyda thi, na bwyta nac yfed dim gyda thi yn y lle hwn. Dyma'r neges a gefais drwy air yr ARGLWYDD: ‘Paid â bwyta bara nac yfed dim yno, na dychwelyd y ffordd yr aethost.’ ” Ond dywedodd y proffwyd oedrannus wrtho, “Yr wyf finnau'n broffwyd fel ti, ac y mae angel wedi dweud wrthyf drwy air yr ARGLWYDD, ‘Dos ag ef yn ôl gyda thi adref i fwyta bara ac yfed dŵr.’ ” Ond dweud celwydd wrtho yr oedd.
1 Brenhinoedd 13:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddychwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytâf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda thi yn y fan hon. Canys dywedwyd wrthyf trwy ymadrodd yr ARGLWYDD, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd-ddi. Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i’th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho.