Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Ioan 5:1,5 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

1 Ioan 5:1 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Mae pawb sy’n credu mai Iesu ydy’r Meseia wedi cael eu geni’n blant i Dduw, ac mae pawb sy’n caru’r Tad yn caru ei blentyn hefyd.

1 Ioan 5:5 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pwy sy’n llwyddo i ennill y frwydr yn erbyn y byd? Dim ond y rhai sy’n credu mai Iesu ydy Mab Duw.

1 Ioan 5:1 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Pob un sy'n credu mai Iesu yw'r Crist, y mae wedi ei eni o Dduw; ac y mae pawb sy'n caru tad yn caru ei blentyn hefyd.

1 Ioan 5:5 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw?

1 Ioan 5:1 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono.

1 Ioan 5:5 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?