1 Ioan 3:16-18
1 Ioan 3:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma sut dŷn ni’n gwybod beth ydy cariad go iawn: Rhoddodd Iesu, y Meseia, ei fywyd yn aberth droson ni. Felly dylen ni aberthu’n hunain dros ein cyd-Gristnogion. Os oes gan rywun ddigon o arian ac eiddo, ac yn gweld fod brawd neu chwaer mewn angen, ac eto’n dewis gwneud dim byd i’w helpu nhw, sut allwch chi ddweud fod cariad Duw yn rhywun felly? Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad!
1 Ioan 3:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma sut yr ydym yn gwybod beth yw cariad: am iddo ef roi ei einioes drosom ni. Ac fe ddylem ninnau roi ein heinioes dros ein cydaelodau. Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo? Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.
1 Ioan 3:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd.