1 Ioan 2:17-22
1 Ioan 2:17-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r byd hwn a’i chwantau yn dod i ben, ond mae’r sawl sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth. Blant annwyl, mae’r awr olaf wedi dod. Dych chi wedi clywed fod gelyn y Meseia i ddod, ac mae llawer sy’n elynion i’r Meseia eisoes wedi dod. Dyna sut dŷn ni’n gwybod fod yr awr olaf wedi dod. Mae’r bobl yma wedi mynd i ffwrdd oddi wrthon ni; doedden nhw ddim wir gyda ni yn y lle cyntaf! Petaen nhw gyda ni, bydden nhw wedi aros gyda ni. Mae’r ffaith eu bod nhw wedi’n gadael ni yn dangos yn glir eu bod nhw ddim gyda ni o gwbl. Ond dych chi’n wahanol – mae’r Un Sanctaidd wedi’ch eneinio chi, a dych chi’n gwybod beth sy’n wir. Dw i ddim yn ysgrifennu atoch chi am eich bod chi ddim yn gwybod beth sy’n wir, ond am eich bod chi yn gwybod, ac yn deall fod gan gelwydd ddim byd i’w wneud â’r gwir. A phwy sy’n dweud celwydd? Dweda i wrthoch chi! – unrhyw un sy’n gwrthod y ffaith mai Iesu ydy’r Meseia. Gelynion y Meseia ydy pobl felly – pobl sy’n gwrthod y Tad yn ogystal â’r Mab!
1 Ioan 2:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth. Blant, dyma'r awr olaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dod, yn awr dyma anghristiau lawer wedi dod; wrth hyn yr ydym yn gwybod mai dyma'r awr olaf. Aethant allan oddi wrthym ni, ond nid oeddent yn perthyn i ni, oherwydd pe byddent yn perthyn i ni, byddent wedi aros gyda ni; dangoswyd felly nad oedd neb ohonynt yn perthyn i ni. Ond amdanoch chwi, y mae gennych eneiniad oddi wrth yr Un Sanctaidd, ac yr ydych bawb yn gwybod. Nid am nad ydych yn gwybod y gwirionedd yr wyf yn ysgrifennu atoch, ond am eich bod yn ei wybod, ac yn gwybod hefyd am bob celwydd, nad yw o'r gwirionedd. Pwy yw'r un celwyddog, ond y sawl sy'n gwadu mai Iesu yw'r Crist? Dyma'r Anghrist, sef yr un sy'n gwadu'r Tad a'r Mab.
1 Ioan 2:17-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r byd sydd yn myned heibio, a’i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd. O blant bychain, yr awr ddiwethaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw anghrist, yr awron hefyd y mae anghristiau lawer; wrth yr hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw. Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni: canys pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent gyda ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni. Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bob peth. Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un celwydd o’r gwirionedd. Pwy yw’r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw’r Crist? Efe yw’r anghrist, yr hwn sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab.