1 Ioan 1:8-9
1 Ioan 1:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydyn ni’n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni’n twyllo’n hunain a dydy’r gwir ddim ynon ni. Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e’n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e’n cadw ei air ac yn gwneud beth sy’n iawn.
Rhanna
Darllen 1 Ioan 11 Ioan 1:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw'r gwirionedd ynom. Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder.
Rhanna
Darllen 1 Ioan 11 Ioan 1:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder.
Rhanna
Darllen 1 Ioan 1