1 Corinthiaid 9:13-14
1 Corinthiaid 9:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydych chi ddim yn deall fod y rhai sy’n gweithio yn y deml yn cael eu bwyd yn y deml, a’r rhai sy’n gwasanaethu wrth yr allor yn cael cyfran o beth sy’n cael ei offrymu ar yr allor? Yn union yr un fath, mae’r Arglwydd wedi gorchymyn fod y rhai sy’n cyhoeddi’r newyddion da i gael ennill bywoliaeth drwy’r newyddion da.
1 Corinthiaid 9:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oni wyddoch fod y sawl sy'n cyflawni gwasanaethau'r deml yn cael eu bwyd o'r deml, a bod y rhai sy'n gweini wrth yr allor yn cael eu cyfran o aberthau'r allor? Yn yr un modd hefyd, rhoddodd yr Arglwydd orchymyn i'r rhai sy'n cyhoeddi'r Efengyl, eu bod i fyw ar draul yr Efengyl.
1 Corinthiaid 9:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig, yn bwyta o’r cysegr? a’r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor, yn gyd-gyfranogion o’r allor? Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd, i’r rhai sydd yn pregethu’r efengyl, fyw wrth yr efengyl.