1 Corinthiaid 6:12-20
1 Corinthiaid 6:12-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i’n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i’n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i. “Mae’n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i’r stumog a’r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio’r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo’i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol – cafodd ei wneud i wasanaethu’r Arglwydd. Ac mae’r corff yn bwysig i’r Arglwydd! Cododd Duw gorff yr Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, a bydd yn defnyddio’i nerth i godi ein cyrff ninnau yr un fath. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich cyrff chi yn rhannau o gorff y Meseia ei hun? Ydw i’n mynd i ddefnyddio fy nghorff (sy’n perthyn i’r Meseia) i gael rhyw gyda phutain? Na, byth! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda’r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” meddai’r ysgrifau sanctaidd. Ond mae’r sawl sy’n clymu ei hun i’r Arglwydd yn rhannu’r un Ysbryd â’r Arglwydd. Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Does dim un pechod arall sy’n effeithio ar y corff yr un fath. Mae’r person sy’n pechu’n rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich corff chi’n deml i’r Ysbryd Glân? Mae’r Ysbryd yn byw ynoch chi – mae wedi’i roi’n rhodd i chi gan Dduw. Dim chi biau eich bywyd; mae pris wedi’i dalu amdanoch chi. Felly defnyddiwch eich cyrff i anrhydeddu Duw.
1 Corinthiaid 6:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond nid yw popeth er lles. “Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond ni chaiff dim fy nghaethiwo i. “Y bwydydd i'r bol a'r bol i'r bwydydd,” meddwch; ond fe ddifetha Duw y naill a'r llall. Eto, nid i buteindra y mae'r corff, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corff. Cyfododd Duw yr Arglwydd, ac fe'n cyfyd ninnau hefyd drwy ei allu. Oni wyddoch mai aelodau Crist yw eich cyrff chwi? A gymeraf fi, felly, aelodau Crist a'u gwneud yn aelodau putain? Dim byth! Neu oni wyddoch fod dyn sy'n ymlynu wrth butain yn un corff â hi? Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud, “Bydd y ddau yn un cnawd.” Ond y sawl sy'n ymlynu wrth yr Arglwydd, y mae'n un ysbryd ag ef. Ffowch oddi wrth buteindra; pob pechod arall a wna rhywun, beth bynnag ydyw, y tu allan i'r corff y mae, ond y mae'r sawl sydd yn puteinio yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. Neu, oni wyddoch fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw, ac nad yr eiddoch eich hunain mohonoch? Oherwydd prynwyd chwi am bris. Felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.
1 Corinthiaid 6:12-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim. Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff. Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef. Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw. Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd. Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd, un ysbryd yw. Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain? Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.