1 Corinthiaid 15:32-34
1 Corinthiaid 15:32-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pa fantais oedd i mi ymladd gyda’r anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i’n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar ôl marwolaeth? “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni’n marw fory!” Peidiwch cymryd eich camarwain, achos “mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” Mae’n bryd i chi gallio, a stopio pechu. Dych chi’n gweld, dydy rhai pobl sy’n eich plith chi’n gwybod dim am Dduw! Dw i’n dweud hyn i godi cywilydd arnoch chi.
1 Corinthiaid 15:32-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os fel dyn cyffredin yr ymleddais â bwystfilod yn Effesus, pa elw fyddai hyn imi? Os na chyfodir y meirw, “Gadewch inni fwyta ac yfed, canys yfory byddwn farw.” Peidiwch â chymryd eich camarwain: “Y mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” Deffrowch i'ch iawn bwyll, a chefnwch ar bechod. Oherwydd y mae rhai na wyddant ddim am Dduw. I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn.
1 Corinthiaid 15:32-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os yn ôl dull dyn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Effesus, pa lesâd sydd i mi, oni chyfodir y meirw? Bwytawn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym. Na thwyller chwi: y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da. Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch: canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn.