1 Corinthiaid 15:30-34
1 Corinthiaid 15:30-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A beth amdanon ni! Pam dŷn ni’n fodlon peryglu’n bywydau drwy’r adeg? Dw i’n wynebu marwolaeth bob dydd. Ydy, mae’n wir ffrindiau – mor sicr â’r ffaith fy mod i’n falch o beth mae’r Meseia Iesu ein Harglwydd ni wedi’i wneud ynoch chi. Pa fantais oedd i mi ymladd gyda’r anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i’n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar ôl marwolaeth? “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni’n marw fory!” Peidiwch cymryd eich camarwain, achos “mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” Mae’n bryd i chi gallio, a stopio pechu. Dych chi’n gweld, dydy rhai pobl sy’n eich plith chi’n gwybod dim am Dduw! Dw i’n dweud hyn i godi cywilydd arnoch chi.
1 Corinthiaid 15:30-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac i ba ddiben yr ydym ninnau hefyd mewn perygl bob awr? Yr wyf yn marw beunydd! Y mae hyn cyn wired â bod gennyf ymffrost ynoch, gyfeillion, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Os fel dyn cyffredin yr ymleddais â bwystfilod yn Effesus, pa elw fyddai hyn imi? Os na chyfodir y meirw, “Gadewch inni fwyta ac yfed, canys yfory byddwn farw.” Peidiwch â chymryd eich camarwain: “Y mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” Deffrowch i'ch iawn bwyll, a chefnwch ar bechod. Oherwydd y mae rhai na wyddant ddim am Dduw. I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn.
1 Corinthiaid 15:30-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phaham yr ydym ninnau mewn perygl bob awr? Yr ydwyf beunydd yn marw, myn eich gorfoledd yr hon sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Os yn ôl dull dyn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Effesus, pa lesâd sydd i mi, oni chyfodir y meirw? Bwytawn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym. Na thwyller chwi: y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da. Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch: canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn.