1 Corinthiaid 15:12-14
1 Corinthiaid 15:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydyn ni’n cyhoeddi fod y Meseia wedi’i godi yn ôl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, dydy’r Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith. Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy’r newyddion da sy’n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag – mae beth dych chi’n ei gredu yn gwbl ddiystyr!
1 Corinthiaid 15:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, os pregethir Crist, ei fod wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, sut y mae rhai yn eich plith yn dweud nad oes atgyfodiad y meirw? Os nad oes atgyfodiad y meirw, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw'r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi
1 Corinthiaid 15:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw? Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith: Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.