1 Corinthiaid 14:27-28
1 Corinthiaid 14:27-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os oes siarad mewn ieithoedd dieithr i fod, dim ond dau – neu dri ar y mwya – ddylai siarad; pob un yn ei dro. A rhaid i rywun esbonio beth sy’n cael ei ddweud. Os nad oes neb i esbonio beth sy’n cael ei ddweud, dylai’r rhai sy’n siarad ieithoedd dieithr aros yn dawel yn y cyfarfod, a chadw’r peth rhyngddyn nhw a Duw.
1 Corinthiaid 14:27-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os oes rhywun yn llefaru â thafodau, bydded i ddau yn unig, neu dri ar y mwyaf, lefaru, a phob un yn ei dro; a bydded i rywun ddehongli. Os nad oes dehonglydd yn bresennol, bydded y llefarydd yn ddistaw yn y gynulleidfa, a llefaru wrtho'i hun ac wrth Dduw.
1 Corinthiaid 14:27-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un. Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; eithr llefared wrtho’i hun, ac wrth Dduw.