1 Cronicl 6:49
1 Cronicl 6:49 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond Aaron a’i feibion oedd yn gweini wrth yr allor lle roedd anifeiliaid yn cael eu llosgi a’r allor lle roedd arogldarth yn cael ei losgi. Nhw, felly, oedd yn gwneud y gwaith yn y Lle Mwyaf Sanctaidd. Roedden nhw’n gwneud pethau’n iawn rhwng Duw ac Israel, fel roedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 61 Cronicl 6:49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond Aaron a'i feibion oedd yn aberthu ar allor y poethoffrwm ac ar allor yr arogldarth, sef holl waith y cysegr sancteiddiaf, ac yn gwneud cymod dros Israel yn union fel y gorchmynnodd Moses gwas Duw.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 61 Cronicl 6:49 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond Aaron a’i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm, ac ar allor yr arogl-darth, i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf, ac i wneuthur cymod dros Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses gwas DUW.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 6