Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 91

91
1Yr hwn sydd yn trigo yn nir/gelwch · y Go/ruchaf :
a erys yng / nghysgod · yr / Holla/lluog.
2Dywedaf am yr Arglwydd * Fy noddfa a’m hamddi/ffynfa / ydyw :
fy Nuw, / ynddo · yr / ymddir/iedaf.
3Canys efe a’th wareda di o / fagl · yr / heliwr :
ac / oddi · wrth / haint ech/ryslon.
4A’i asgell y cysgoda efe trosot * a than ei adenydd y / byddi · ddi/ogel :
ei wirionedd fydd / darian · ac / astalch · i / ti.
5Nid ofni rhag / dychryn / nos :
na rhag y / saeth · a e/hedo · y / dydd,
6Na rhag yr haint a rodio / yn y · ty/wyllwch :
na rhag y dinistr a ddi/nistrio / ganol / dydd.
7Wrth dy ystlys y cwymp mil * a deng mil / wrth dy · dde-/heulaw :
ond ni ddaw yn / agos / atat / ti.
8Yn unig ti a gan/fyddi · â’th / lygaid :
ac a weli / dâl y / rhai an/nuwiol.
9Am i ti wneuthur yr / Arglwydd · fy / noddfa :
sef y Go/ruchaf · yn bres/wylfa · i / ti :
10Ni ddigwydd / i ti / niwed :
ac ni ddaw / pla yn / agos · i’th / babell.
11Canys efe a orchymyn i’w an/gylion · am/danat ti :
dy / gadw · yn dy / holl / ffyrdd.
12Ar eu / dwylo · y’th / ddygant :
rhag / taro · dy / droed wrth / garreg.
13Ar y llew a’r / asb y / cerddi :
y cenau / llew a’r / ddraig a / fethri.
14Am iddo roddi ei serch arnaf * am hynny y gwa/redaf / ef :
dyrchafaf ef am / iddo · a/dnabod · fy / enw.
15Efe a eilw arnaf a / mi a’i · gwran/dawaf :
mewn ing y byddaf fi gydag ef * y gwaredaf ac y / gogo-/neddaf / ef.
16Digonaf ef â / hir / ddyddiau :
a dangosaf / iddo · fy / iachaw/dwriaeth.

Dewis Presennol:

Salm 91: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda