Salm 83
83
Cân neu Salm Asaff.
[1O Dduw, na os/tega · na / thaw :
ac / na fydd / lonydd · O / Dduw.
2Canys wele dy elynion / sydd yn · ter/fysgu :
a’th ga/seion · yn cy/fodi · eu / pennau.
3Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn / erbyn · dy / bobl :
ac ymgyngorasant yn / erbyn · dy rai / dirgel / di.
4Dywedasant * Deuwch a di/fethwn / hwynt :
fel na byddont yn genedl * ac na chofier / enw / Israel / mwyach.
5Canys ymgyngo/rasant · yn / unfryd :
ac ym/wnaethant / i’th / erbyn;
6Pebyll Edom / a’r Is/maeliaid :
y Mo/abiaid / a’r Ha/gariaid;
7Gebal ac / Ammon · ac / Amalec :
y Philistiaid / gyda · phre/swylwyr / Tyrus.
8Assur hefyd a ymgyp/lysodd · â / hwynt :
buant / fraich i / blant / Lot.
9Gwna di iddynt / fel i / Midian :
megis i Sisera megis i / Jabin · wrth / afon / Cison.
10Yn Endor y di/fethwyd / hwynt :
aethant yn / dail / i’r / ddaear.
11Gwna eu pendefigion fel / Oreb · ac fel / Seeb :
a’u holl dywysogion fel / Seba · ac / fel Sal/munna,
12Y rhai a ddywedasant * Cy/merwn · i / ni :
gyfan/heddau / Duw · i’w medd/iannu.
13Gosod hwynt O fy / Nuw fel / olwyn :
fel / sofl o / flaen y / gwynt.
14Fel y llysg / tân / goed :
ac fel y go/ddeithia / fflam fy/nyddoedd;
15Felly erlid di / hwynt · â’th / dymestl :
a dych/ryna / hwynt â’th / gorwynt.
16Llanw eu hwy/nebau · â / gwarth :
fel y / ceisiont · dy / enw · O / Arglwydd.
17Cywilyddier a thralloder / hwynt · yn dra/gywydd :
ie gwara/dwydder · a di/fether / hwynt;
18Fel y gwypont mai tydi * yr hwn yn unig wyt JE/HOFAH · wrth dy / enw :
wyt Oruchaf / ar yr / holl / ddaear.]
Dewis Presennol:
Salm 83: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984