Salm 72
72
Salm i Solomon.
1O Dduw dod i’r Brenin dy / farne · di/gaethau :
ac i fab y / Brenin / dy gyf/iawnder.
2Efe a farn dy bobl / mewn cyf/iawnder :
a’th dru/einiaid / â / barn.
3Y mynyddoedd a ddygant / heddwch · i’r / bobl :
a’r / bryniau / trwy gyf/iawnder.
4Efe a farn drueiniaid y bobl * efe a achub / feibion * yr ang-/henus :
ac a / ddryllia / y gor/thrymydd.
5Tra fyddo / haul a / lleuad :
y’th / ofnant · yn / oes / oesoedd.
6Efe a ddisgyn fel glaw ar / gnu / gwlân :
fel ca/wodydd · yn dyfr/hau y / ddaear.
7Yn ei ddyddiau ef y blo/deua · y / cyfiawn :
ac amlder o heddwch / fydd tra / fyddo / lleuad.
8Ac efe a lywodraetha o / fôr hyd / fôr :
ac o’r afon / hyd der/fynau · y / ddaear.
9O’i flaen ef yr ymgryma tri/golion · yr an/ialwch :
a’i e/lynion · a / lyfant · y / llwch.
10Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a / dalant / anrheg :
brenhinoedd Sheba a / Seba · a / ddygant / rodd.
11Ie yr holl frenhinoedd a ym/grymant / iddo :
yr holl genhedloedd a’i / gwasa/naethant / ef.
12Canys efe a wared yr ang/henog · pan / waeddo :
y truan hefyd, a’r hwn ni byddo / cynor/thwywr / iddo.
13Efe a arbed y / tlawd a’r / rheidus :
ac a achub e/neidiau · y / rhai ang/henus.
14Efe a wared eu henaid oddi wrth / dwyll a / thrawster :
a gwerthfawr fydd eu / gwaed · yn ei / olwg / ef.
15Byw hefyd fydd efe * a rhoddir iddo o / aur / Seba :
gweddïant hefyd drosto ef yn wastad * beunydd / y clod/forir / ef.
16Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd * ei ffrwyth a / ysgwyd · fel / Libanus :
a phobl y ddinas a flo/deuant · fel / gwellt y / ddaear.
17Ei enw fydd yn dragywydd * ei enw a bery tra fyddo haul * ac ymfen/dithiant / ynddo :
yr holl genhedloedd a’i / galwant · yn / wynfy/dedig.
18Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw / Duw / Israel :
yr hwn yn unig sydd yn / gwneuthur / rhyfe/ddodau.
19Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus / ef · yn dra-/gywydd :
a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. * A/men ac / A/men.
Dewis Presennol:
Salm 72: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984