Salm 136
136
1Clodforwch yr Arglwydd; canys / da / yw :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
2Clodforwch / Dduw y / duwiau :
oblegid ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
† 3Clodforwch / Arglwydd · yr ar/glwyddi :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
4Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur / rhyfe/ddodau :
canys ei dru/garedd / sydd yn · dra/ gywydd.
5Yr hwn a wnaeth y nefoedd / mewn doe/thineb :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
6Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi / ar y / dyfroedd :
oblegid ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
7Yr hwn a wnaeth oleu/adau / mawrion :
canys ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd;
8Yr haul i lywod/raethu · y / dydd :
canys ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd;
9Y lleuad a’r sêr i lywod/raethu · y / nos :
canys ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
10Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu / cyntaf · a/nedig :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd;
11Ac a ddug / Israel · o’u / mysg hwynt :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd;
† 12Â llaw gref ac â / braich · esty/nedig :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
13Yr hwn a rannodd y môr coch yn / ddwy / ran :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
14Ac a wnaeth i Israel fyned / trwy ei / ganol :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
15Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y / môr / coch :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
16Ac a dywysodd ei bobl / trwy yr · an/ialwch :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
17Yr hwn a drawodd fren/hinoedd / mawrion :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd;
18Ac a laddodd fren/hinoedd · ar/dderchog :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd;
19Sehon / brenin · yr A/moriaid :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd;
20Ac Og / brenin / Basan :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd;
21Ac a roddodd eu tir hwynt yn / eti/feddiaeth :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd;
22Yn etifeddiaeth i / Israel · ei / was :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
23Yr hwn yn ein hiselradd a’n / cofiodd / ni :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dragywydd;
24Ac a’n hachubodd ni oddi / wrth ein · ge/lynion :
oherwydd ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
25Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i / bob / cnawd :
canys ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
26Clodforwch / Dduw y / nefoedd :
canys ei dru/garedd / sydd yn · dra/gywydd.
Dewis Presennol:
Salm 136: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984