Salm 128
128
Caniad y graddau.
1Gwyn ei fyd pob un sydd yn / ofni · yr / Arglwydd :
yr hwn sydd yn / rhodio · yn ei / ffyrdd / ef.
2Canys mwynhei / lafur · dy / ddwylo :
gwyn dy fyd a / da / fydd i / ti.
3Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ys/tlysau · dy / dŷ :
dy blant fel planhigion o/lewydd · o / amgylch · dy / ford.
4Wele fel hyn yn ddiau / y ben/dithir :
y / gŵr a / ofno · yr / Arglwydd.
5Yr Arglwydd a’th fendithia / allan · o / Seion :
a thi a gei weled daioni Jerwsalem / holl / ddyddiau · dy / einioes.
6A thi a gei weled / plant dy / blant :
a thang/nefedd / ar / Israel.
Dewis Presennol:
Salm 128: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984