Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 116

116
1Da gennyf / wrando · o’r / Arglwydd :
ar fy / llef / a’m gwe/ddïau.
2Am ostwng ohono ei / glust / ataf :
am hynny llefaf dros fy / nyddiau / arno / ef.
3Gofidion angau a’m cylchynasant * a gofidiau uffern / a’m dal/iasant :
ing a / blinder / a / gefais.
4Yna y gelwais ar / enw yr / Arglwydd :
Atolwg / Arglwydd / gwared · fy / enaid.
5Graslon yw yr / Arglwydd · a / chyfiawn :
a thosturiol / yw ein / Duw / ni.
6Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai / anni/chellgar :
tlodais ac e/fe / a’m ha/chubodd.
7Dychwel O fy enaid / i’th or/ffwysfa :
canys yr / Arglwydd · fu / dda / wrthyt.
8Oherwydd i ti waredu fy / enaid · oddi wrth / angau :
fy llygaid oddi wrth / ddagrau · a’m / traed rhag / llithro.
9Rhodiaf o / flaen yr / Arglwydd :
yn / nhir y / rhai / byw.
10Credais * am / hynny · y lle/ferais :
cys/tuddiwyd / fi yn / ddirfawr.
11Mi a ddywedais / yn fy / ffrwst :
Pob / dyn / sydd gel/wyddog.
12Beth a / dalaf ∙ i’r / Arglwydd :
am ei / holl / ddoniau ∙ i / mi?
13Ffiol iachawdwriaeth / a gy/meraf :
ac ar / enw yr / Arglwydd ∙ y / galwaf.
14Fy addunedau a / dalaf ∙ i’r / Arglwydd :
yn awr yng / ngŵydd ei / holl / bobl ef.
15Gwerthfawr yng / ngolwg ∙ yr / Arglwydd :
yw mar/wolaeth · ei / saint / ef.
16O Arglwydd yn ddiau dy was di ydwyf fi * dy was / di ∙ ydwyf / fi :
mab dy wasanaethwraig * da/todaist / fy / rhwymau.
17Aberthaf i ti / aberth / moliant :
a / galwaf ∙ ar / enw yr / Arglwydd.
18Talaf fy addu/nedau ∙ i’r / Arglwydd :
yn awr yng / ngŵydd ∙ ei / holl / bobl,
19Yng nghynteddoedd / tŷ yr / Arglwydd :
yn dy ganol di O Jerwsalem * / Mo/lwch yr / Arglwydd.

Dewis Presennol:

Salm 116: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda