Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 108

108
Cân neu Salm Dafydd.
1Parod yw fy / nghalon · O / Dduw :
canaf a chan/molaf / â’m go/goniant.
2Deffro y / nabl · a’r / delyn :
minnau / a ddeff/roaf · yn / fore.
3Clodforaf di, Arglwydd y/mysg y / bobloedd :
canmolaf / di y/mysg · y cen/hedloedd.
4Canys mawr yw dy drugaredd oddi / ar y / nefoedd :
a’th wirionedd a / gyrraedd / hyd yr / wybren.
5Ymddyrcha O Dduw / uwch y / nefoedd :
a bydded dy o/goniant · ar yr / holl / ddaear;
6Fel y gwa/reder · dy rai / annwyl :
achub â’th dde/heulaw · a / gwrando / fi.
7Duw a lefarodd / yn ei · sanc/teiddrwydd :
Llawenychaf * rhannaf Sichem a me/suraf / ddyffryn / Succoth.
8Eiddof fi yw Gilead * eiddof / fi Ma/nasse :
Effraim hefyd yw nerth fy mhen, / Jwda / yw fy / neddfwr.
9Moab yw fy / nghrochan / golchi :
tros Edom y taflaf fy esgid * buddugol/iaethaf / ar Phi/listia.
10Pwy a’m dwg i’r / ddinas / gadarn? :
pwy a’m / dwg / hyd yn / Edom?
11Onid tydi O Dduw yr hwn a’n / bwriaist / ymaith? :
ac onid ei di allan O / Dduw / gyda’n / lluoedd?
12Dyro i ni gynhorthwy / rhag cy/fyngder :
canys / gau · yw ym/wared / dyn.
13Trwy Dduw y / gwnawn w/roldeb :
canys efe a / sathr / ein ge/lynion.

Dewis Presennol:

Salm 108: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda