Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 92

92
1Da yw mol/iannu’r / Arglwydd :
a chanu mawl i’th / enw / di · y Go/ruchaf,
2A chyhoeddi dy gariad / yn y / bore :
a’th ffydd/londeb / bob – / nos,
3‡ Gyda’r / dectant · a’r / nabl :
a / chyda / chordiau’r / delyn.
4Oherwydd yr wyt ti, O Arglwydd, wedi fy llawe/nychu · â’th / waith :
yr wyf yn gorfoleddu / yng ngweith/garwch · dy / ddwylo.
5Mor fawr yw dy weith/redoedd · O / Arglwydd :
a / dwfn iawn / dy fe/ddyliau!
6Un dwl yw’r sawl / sydd heb / wybod :
a ffŵl yw’r / un · sydd heb / ddeall / hyn :
7Er i’r annuwiol dyfu fel glaswellt · ac i’r holl wneuthurwyr dryg/ioni / lwyddo :
eu bod / i’w di/nistrio · am / byth,
8Ond dy / fod ti / Arglwydd :
yn dra/gwyddol / ddyrcha/fedig.
9Oherwydd wele, dy e/lynion / Arglwydd :
wele, dy elynion a ddifethir · a’r holl wneuthurwyr dryg/ioni / a was/gerir.
10Codaist i fyny fy nghorn / fel corn / ych :
ac eneiniaist / fi ag / olew / croyw.
11Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp / fy nge/lynion :
a’m clustiau wrth glywed am y rhai dryg/ionus · a / gododd · yn / f’erbyn.
12Y mae’r cyfiawn yn blo/deuo fel / palmwydd :
ac yn / tyfu · fel / cedrwydd / Lebanon.
13Y maent wedi eu plannu / yn nhŷ’r / Arglwydd :
ac yn blodeuo / yng nghyn/teddau · ein / Duw.
14Rhônt ffrwyth hyd yn / oed mewn / henaint :
a phar/hânt yn / wyrdd ac / iraidd.
15Cyhoeddant fod yr Arglwydd yn uniawn, ac / am fy / nghraig :
nad oes / anghyf/iawnder / ynddo.

Dewis Presennol:

Salm 92: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda