Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 84

84
1Mor brydferth yw / dy bres/wylfod :
O / Ar–/glwydd y / Lluoedd.
2Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg · am gyn/teddau’r / Arglwydd :
y mae’r cyfan ohonof yn gweiddi’n llawen / ar y / Duw – / byw.
3aCafodd hyd yn oed ad/eryn y · to / gartref :
a’r wennol / nyth – / iddi ei / hun,
3bLle mae’n magu ei chywion, wrth dy a/llorau / di :
O Arglwydd y Lluoedd, fy / Mrenin / a’m – / Duw.
4Gwyn eu byd y rhai sy’n trigo / yn dy / dŷ :
yn canu / mawl i / ti’n was/tadol.
5Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti’n / noddfa / iddynt :
a ffordd y perer/inion / yn eu / calon.
6Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Baca fe’i / cânt yn / ffynnon :
bydd y glaw cynnar / yn ei · or/chuddio · â / bendith.
7Ânt o / nerth i / nerth :
a bydd Duw y duwiau / yn ym/ddangos · yn / Seion.
8O Arglwydd Dduw’r Lluoedd / clyw fy / ngweddi :
gwrando / arnaf / O Dduw / Jacob.
9Edrych ar ein / tarian · O / Dduw :
rho / ffafr – / i’th e/neiniog.
10Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di / na mil / gartref :
gwell sefyll wrth y drws yn nhŷ fy Nuw · na / thrigo · ym / mhebyll · dryg/ioni.
11aOherwydd haul a tharian yw’r / Arglwydd / Dduw :
rhydd / ras – / ac an/rhydedd.
11bNid atal yr Arglwydd / unrhyw dda/ioni :
oddi wrth y / rhai sy’n / rhodio’n / gywir.
12O / Arglwydd y / Lluoedd :
gwyn ei fyd y sawl / sy’n ym/ddiried / ynot.

Dewis Presennol:

Salm 84: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda