Salm 80
80
1Gwrando, O / fugail / Israel :
sy’n arwain / Joseff / fel di/adell.
2Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid · disgleiria i Effraim, Benjamin / a Ma/nasse :
gwna i’th nerth / gyffroi · a / thyrd i’n · gwa/redu.
3Adfer / ni, O / Dduw :
bydded llewyrch dy wyneb arnom / a gwa/reder / ni.
4O Arglwydd / Dduw y / Lluoedd :
am ba hyd y byddi’n / ddig · wrth we/ddïau · dy / bobl?
5Yr wyt wedi eu bwydo â / bara / dagrau :
a’u diodi â / mesur / llawn o / ddagrau.
6Gwnaethost ni’n ddirmyg / i’n cym/dogion :
ac y mae ein ge/lynion / yn ein / gwawdio. ‡
7O Dduw’r Lluoedd / adfer / ni :
bydded llewyrch dy wyneb arnom / a gwa/reder / ni.
8Daethost â gwin/wydden · o’r / Aifft :
gyrraist allan gen/hedloedd · er / mwyn · ei / phlannu;
9Cliriaist y / tir – / iddi :
magodd hithau / wreiddiau · a / llenwi’r / tir.
10Yr oedd ei chysgod yn gor/chuddio’r · my/nyddoedd :
a’i changau / fel y / cedrwydd / cryfion;
11Estynnodd ei brigau / at y / môr :
a’i / blagur / at yr / afon.
12Pam felly y / bylchaist · ei / chloddiau :
fel bod y rhai sy’n mynd / heibio · yn / tynnu · ei / ffrwyth?
13Y mae baedd y goedwig / yn ei / thyrchu :
ac ani/feiliaid / gwyllt · yn ei / phori.
14O Dduw’r Lluoedd, tro eto · edrych i lawr o’r / nefoedd · a / gwêl :
gofala / am · y win/wydden / hon,
15Y planhigyn a blennaist / â’th dde/heulaw :
y gainc yr / wyt yn / ei chyf/nerthu.
16Bydded i’r rhai sy’n ei llosgi â thân ac yn ei / thorri · i / lawr :
gael eu difetha gan / gerydd / dy wy/nepryd.
17Ond bydded dy law ar y sawl sydd / ar dy · dde/heulaw :
ar yr un yr / wyt ti’n / ei gyf/nerthu.
18Ni thrown oddi / wrthyt / mwyach :
adfywia ni, ac fe / alwn / ar dy / enw.
19Arglwydd Dduw y Lluoedd / adfer / ni :
bydded llewyrch dy wyneb arnom / a gwa/reder / ni.
Dewis Presennol:
Salm 80: SPBCND
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009