Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 77

77
1Gwaeddais yn / uchel · ar / Dduw :
yn uchel ar / Dduw a / chlywodd / fi.
2Yn nydd fy nghyfyngder / ceisiais · yr / Arglwydd :
ac yn y nos estyn fy nwylo’n ddiflino · nid oedd cy/suro / ar fy / enaid.
3Pan feddyliaf am Dduw, yr / wyf yn / cwyno :
pan fy/fyriaf · fe / balla / f’ysbryd.
4Cedwaist fy / llygaid · rhag / cau :
fe’m syfrdanwyd / ac ni / allaf / siarad.
5Af yn ôl i’r / dyddiau / gynt :
a chofio / am · y bly/nyddoedd · a / fu;
6Meddyliaf ynof fy hun / yn y / nos :
my/fyriaf · a’m / holi · fy / hunan,
7“A wrthyd yr / Arglwydd · am / byth :
a / pheidio · â / gwneud ffafr / mwyach?
8A yw ei ffyddlondeb wedi / darfod · yn / llwyr :
a’i addewid wedi ei / hatal · am / gened/laethau?
9A yw Duw wedi anghofio / trugar/hau? :
A yw yn ei / lid · wedi / cloi · ei dos/turi?”
10Yna dywedais / “Hyn · yw fy / ngofid :
a yw deheulaw’r Go/ruchaf / wedi / pallu?”
11Galwaf i gof weith/redoedd · yr / Arglwydd :
a chofio am dy / ryfe/ddodau / gynt.
12Meddyliaf am dy / holl – / waith :
a my/fyriaf / am dy · weith/redoedd.
13O Dduw, sanctaidd / yw dy / ffordd :
pa dduw sydd / fawr · fel ein / Duw – / ni?
14Ti yw’r Duw sy’n gwneud / pethau · rhy/feddol :
dangosaist dy / rym ym/hlith y / bobloedd.
15Â’th fraich gwa/redaist · dy / bobl :
disgy/nyddion / Jacob · a / Joseff.
16Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw · gwelodd y dyfroedd di / ac ar/swydo :
yn wir, yr / oedd y / dyfnder · yn / crynu.
17Tywalltodd y cymylau ddŵr · ac yr oedd y ffurfafen / yn ta/ranu :
fflachiodd dy / saethau / ar bob / llaw.
18Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt · goleuodd dy / fellt y / byd :
ys/gydwodd · y / ddaear · a / chrynu.
19Aeth dy ffordd drwy’r môr · a’th lwybr trwy / ddyfroedd / nerthol :
ond ni / welwyd / ôl dy / gamau.
20Arweiniaist dy / bobl fel / praidd :
trwy / law – / Moses · ac / Aaron.

Dewis Presennol:

Salm 77: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda