Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 74

74
1Pam, Dduw, y bwriaist ni / ymaith · am / byth? :
Pam y myga dy ddigofaint yn / erbyn / defaid · dy / borfa?
2Cofia dy gynulleidfa a brynaist gynt · y llwyth a waredaist yn eti/feddiaeth / iti :
a Mynydd / Seion · lle’r / oeddit · yn / trigo.
3Cyfeiria dy draed at yr ad/feilion / bythol :
dinistriodd y gelyn / bopeth / yn y / cysegr.
4Rhuodd dy elynion yng / nghanol · dy / gysegr :
a gosod eu harwyddion eu hunain / yn ar/wyddion / yno.
5Y maent / wedi · ma/lurio :
fel coedwigwyr yn chwifio’u / bwyeill · mewn / llwyn o / goed.
6Rhwygasant yr holl / waith cer/fiedig :
a’i falu â / bwyeill / a mor/thwylion.
7Rhoesant dy / gysegr · ar / dân :
a halogi’n / llwyr bre/swylfod · dy / enw.
8Dywedasant ynddynt eu hunain, “Difodwn / hwy i / gyd” :
llosgasant holl gy/segrau / Duw trwy’r / tir.
9Ni welwn arwyddion i ni · nid oes / proffwyd / mwyach :
ac nid oes yn ein plith / un a / ŵyr · am ba / hyd.
10Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia’r / gwrthwy/nebwr? :
A yw’r gelyn i ddi/frïo · dy / enw · am / byth? ‡
11Pam yr wyt yn / atal · dy / law :
ac yn cuddio dy dde/heulaw / yn dy / fynwes?
12Ond ti, O Dduw, yw fy / mrenin · er/ioed :
yn gweithio iachaw/dwriaeth / ar y / ddaear.
13Ti, â’th nerth, a / rannodd · y / môr :
torraist bennau’r / dreigiau / yn y / dyfroedd.
14Ti a ddrylliodd / bennau · Le/fiathan :
a’i roi’n fwyd / i fwyst/filod y / môr.
15Ti a agorodd ffynhonnau / ac a/fonydd :
a / sychu’r / dyfroedd · di-/baid.
16Eiddot ti yw / dydd a / nos :
ti a se/fydlodd · o/leuni · a / haul.
17Ti a osododd holl der/fynau / daear :
ti a / drefnodd / haf a / gaeaf.
18Cofia, O Arglwydd, fel y mae’r / gelyn · yn / gwawdio :
a phobl ynfyd / yn di/frïo dy / enw.
19Paid â rhoi dy golomen / i’r bwyst/filod :
nac anghofio bywyd / dy dru/einiaid · am / byth.
20Rho sylw / i’th gy/famod :
oherwydd y mae cuddfannau’r ddaear yn / llawn · ac yn / gartref · i / drais.
21Paid â gadael i’r gorthrymedig droi / ymaith · yn / ddryslyd :
bydded i’r tlawd a’r ang/henus · glod/fori · dy / enw.
22Cyfod, O Dduw, i / ddadlau · dy / achos :
cofia fel y mae’r ynfyd / yn dy / wawdio’n / wastad.
23Paid ag anghofio crechwen / dy e/lynion :
a chrochlefain cy/nyddol · dy / wrthwy/nebwyr.

Dewis Presennol:

Salm 74: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda