Salm 71
71
1Ynot ti, Arglwydd, y / ceisiais / loches :
na fydded cy/wilydd / arnaf / byth.
2Yn dy gyfiawnder gwared ac / achub / fi :
tro dy glust / ataf · ac / arbed / fi.
3Bydd yn graig noddfa i mi · yn amddi/ffynfa · i’m / cadw :
oherwydd ti yw fy / nghraig a’m / hamddi/ffynfa.
4O fy Nuw, gwared fi o / law’r dryg/ionus :
o afael yr ang/hyfiawn / a’r – / creulon.
5Oherwydd ti, Arglwydd / yw fy / ngobaith :
fy ymddiriedaeth o’m hieu/enctid / O – / Arglwydd.
6Arnat ti y bûm yn pwyso o’m genedigaeth · ti a’m tynnodd allan o / groth fy / mam :
amdanat ti y / bydd fy / mawl yn / wastad.
7Bûm fel pe’n / rhybudd · i / lawer :
ond / ti · yw fy / noddfa / gadarn.
8Y mae fy ngenau’n / llawn o’th / foliant :
ac o’th o/goniant / bob – / amser.
9Paid â’m bwrw ymaith yn / amser / henaint :
paid â’m gadael pan / fydd fy / nerth yn / pallu.
10Oherwydd y mae fy ngelynion yn / siarad · am/danaf :
a’r rhai sy’n gwylio am fy einioes yn / trafod / gyda’i / gilydd,
11Ac yn dweud, “Y mae Duw / wedi · ei / adael :
ewch ar ei ôl a’i ddal · oherwydd / nid – / oes gwa/redydd.”
12O Dduw, paid â phellhau / oddi / wrthyf :
O fy Nuw / brysia · i’m / cynor/thwyo.
13Doed cywilydd a gwarth ar fy / ngwrthwyn/ebwyr :
a gwaradwydd yn orchudd dros y / rhai sy’n / ceisio · fy / nrygu.
14Ond byddaf fi’n / disgwyl · yn / wastad :
ac yn dy / foli’n / fwy · ac yn / fwy.
15Bydd fy ngenau’n mynegi dy gyfiawnder · a’th weithredoedd a/chubol · trwy’r / amser :
o/herwydd · ni / wn eu / nifer.
16Dechreuaf gyda’r gweithredoedd grymus, O / Arglwydd / Dduw :
soniaf am dy gyf/iawnder / di yn / unig.
17O Dduw, dysgaist fi / o’m hieu/enctid :
ac yr wyf yn dal i gy/hoeddi · dy / ryfe/ddodau;
18aA hyd yn oed pan wyf yn / hen a / phenwyn :
O / Dduw – / paid â’m / gadael,
18bNes imi fy/negi · dy / rym :
i’r cened/laethau / sy’n – / codi.
19aY mae dy gryfder a’th gyf/iawnder · O / Dduw :
yn / cyrraedd / i’r u/chelder,
19bOherwydd iti wneud / pethau / mawr :
O / Dduw · pwy / sydd · fel ty/di?
20aTi, a wnaeth imi weld cyfyngderau / mawr a / chwerw :
fydd / yn · fy ad/fywio · dra/chefn;
20bAc o ddyfn/derau’r / ddaear :
fe’m dygi i / fyny / unwaith / eto.
21Byddi’n ychwanegu at / fy an/rhydedd :
ac yn / troi – / i’m cy/suro.
22aByddaf finnau’n dy foli/annu â’r / nabl :
am dy ffydd/londeb / O fy / Nuw;
22bByddaf yn canu i / ti â’r / delyn :
O / Sanct – / Isra/el.
23Bydd fy ngwefusau’n gweiddi’n llawen · oherwydd / canaf · i / ti :
a hefyd yr / enaid / a wa/redaist.
24Bydd fy nhafod beunydd yn / sôn am · dy gy/fiawnder :
oherwydd daeth cywilydd a gwaradwydd ar y / rhai · a fu’n / ceisio · fy / nrygu.
Dewis Presennol:
Salm 71: SPBCND
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009