Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmydd 31

31
SALM XXXI.
8.7. D. Jersey. Henryd.
1Ymddiriedais ynot Arglwydd,
Ac na’m cywilyddier byth;
2-3Ti yw’m craig a’m hamddiffynfa,
Yn dy gysgod gwnaf fy nyth;
Tywys fi er mwyn dy enw,
4Tyn fi o rwyd y gelyn cas;
5I dy law gorch’mynaf f’ysbryd,
7Llawenychaf yn dy ras.
Yn y cyfyngderau mwyaf
Adnabuost fi yn dda;
8Mewn ehangder y’m gosodaist,
9-10Eto wrthyf trugarha;
Bywyd ballodd i’m gan ochain,
Mor ofidus yw fy nghlwyf;
Curia ’nghnawd, a phydra’m hesgyrn,
11Dychryn i’m cym’dogion wyf.
12Fel un marw y’m hanghofiwyd,
Llestr a dorwyd ar y llawr;
13Ac mi glywais ogan llawer,
Syrthiodd arnaf ddychryn mawr;
14Eto ynot mi obeithiais,
Ti yw’m noddfa a fy Nuw;
15Yn dy law mae fy amseroedd,
Cadw f’enaid tlawd yn fyw.
16Achub fi yn dy drugaredd,
Rho dy wyneb i dy was,
17-18A dychweler fy ngwaradwydd
Adre’ ar ben y gelyn cas;
19Mawr ddaioni ro’wd i gadw
I’r sawl ynot Ti a gred;
O flaen llygaid meibion dynion
Taenir hwn ryw ddydd ar led.
20Yn nirgelfa ’th wyneb sanctaidd
Rhag gwaradwydd cuddir hwy,
Yn y babell lle ni chlywant
Gynen drwg dafodau mwy;
21Bendigedig fyddo’r Arglwydd,
Rhyfedd garedigrwydd gês —
Dwyfol nawdd mewn dinas gadarn,
Gwell na mil o furiau pres.

Dewis Presennol:

Salmydd 31: SC1885

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda