Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 27

27
I Ddafydd.
1Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth,
rhag pwy yr ofnaf?
Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd,
rhag pwy y dychrynaf?
2Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf
i'm hysu i'r byw,
hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion,
fydd yn baglu ac yn syrthio.
3Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn,
nid ofnai fy nghalon;
pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf,
eto, fe fyddwn yn hyderus.
4Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD,
dyma'r wyf yn ei geisio:
cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD
holl ddyddiau fy mywyd,
i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD
ac i ymofyn yn ei deml.
5Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd,
a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig.
6Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen
goruwch fy ngelynion o'm hamgylch;
ac offrymaf finnau yn ei deml
aberthau llawn gorfoledd;
canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.
7Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf;
bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.
8Dywedodd fy nghalon amdanat,
“Ceisia ei wyneb#27:8 Cymh. Syrieg. Hebraeg, Ceisiwch fy wyneb.”;
am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD.
9Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,
na throi ymaith dy was mewn dicter,
oherwydd buost yn gymorth i mi;
paid â'm gwrthod na'm gadael,
O Dduw, fy Ngwaredwr.
10Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf,
byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn.
11Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD,
arwain fi ar hyd llwybr union,
oherwydd fy ngwrthwynebwyr.
12Paid â'm gadael i fympwy fy ngelynion,
oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddog
sy'n bygwth trais.
13Yr wyf yn sicr#27:13 Felly Groeg a rhai llawysgrifau. TM, Pe na chredaswn. y caf weld daioni'r ARGLWYDD
yn nhir y rhai byw.
14Disgwyl wrth yr ARGLWYDD,
bydd gryf a gwrol dy galon
a disgwyl wrth yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Y Salmau 27: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd