Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 13

13
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.
1Am ba hyd, ARGLWYDD, yr anghofi fi'n llwyr?
Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?
2Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid,
a gofid yn fy nghalon ddydd ar ôl dydd?
Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi?
3Edrych arnaf ac ateb fi, O ARGLWYDD fy Nuw;
goleua fy llygaid rhag imi gysgu hun marwolaeth,
4rhag i'm gelyn ddweud, “Gorchfygais ef”,
ac i'm gwrthwynebwyr lawenhau pan gwympaf.
5Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb,
a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth;
canaf i'r ARGLWYDD,
am iddo fod mor hael wrthyf.

Dewis Presennol:

Y Salmau 13: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd