Mathew 2
2
Ymweliad y Seryddion
1Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem 2a holi, “Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli.” 3A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef. 4Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni. 5Eu hateb oedd, “Ym Methlehem Jwdea, oherwydd felly yr ysgrifennwyd gan y proffwyd:
6“ ‘A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda,
nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda,
canys ohonot ti y daw allan arweinydd
a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.’ ”
7Yna galwodd Herod y seryddion yn ddirgel ato, a holodd hwy'n fanwl pa bryd yr oedd y seren wedi ymddangos. 8Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, “Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a'i addoli.” 9Wedi gwrando ar y brenin aethant ar eu taith, a dyma'r seren a welsent ar ei chyfodiad yn mynd o'u blaen hyd nes iddi ddod ac aros uwchlaw'r man lle'r oedd y plentyn. 10A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben. 11Daethant i'r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a'i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. 12Yna, ar ôl cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, aethant yn ôl i'w gwlad ar hyd ffordd arall.
Ffoi i'r Aifft
13Wedi iddynt ymadael, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a ffo i'r Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd y mae Herod yn mynd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd.” 14Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef liw nos, ac ymadael i'r Aifft. 15Arhosodd yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd: “O'r Aifft y gelwais fy mab.”
Lladd y Bechgyn
16Yna, pan ddeallodd Herod iddo gael ei dwyllo gan y seryddion, aeth yn gynddeiriog, a rhoddodd orchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem a'r holl gyffiniau oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, gan gyfrif o'r amser yr holodd ef y seryddion. 17Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd:
18“Clywyd llef yn Rama,
wylofain a galaru dwys;
Rachel yn wylo am ei phlant,
ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy.”
Dychwelyd o'r Aifft
19Ar ôl i Herod farw, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseff yn yr Aifft, 20ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a dos i wlad Israel, oherwydd bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn.” 21Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef, a mynd i wlad Israel. 22Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu dros Jwdea yn lle ei dad Herod, daeth ofn ar Joseff fynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd, ac ymadawodd i barthau Galilea, 23ac ymsefydlodd mewn tref a elwid Nasareth, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwydi: “Gelwir ef yn Nasaread.”
Dewis Presennol:
Mathew 2: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004
Mathew 2
2
Ymweliad y gwŷr doeth
1Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth#2:1 gwŷr doeth: Dynion oedd yn astudio’r sêr. o wledydd y dwyrain i Jerwsalem 2i ofyn, “Ble mae’r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.”
3Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu’n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. 4Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i’w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae’r Meseia i fod i gael ei eni?” 5“Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw. “Dyna ysgrifennodd y proffwyd:
6 ‘Bethlehem, yn nhir Jwda –
Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti;
achos ohonot ti daw un i deyrnasu,
un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’” #
Micha 5:2
7Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw’r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. 8Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.”
9Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i’w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma’r seren yn mynd o’u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. 10Roedden nhw wrth eu bodd! 11Pan aethon nhw i mewn i’r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda’i fam, Mair, a dyma nhw’n disgyn ar eu gliniau o’i flaen a’i addoli. Yna dyma nhw’n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr#2:11 thus a myrr: Powdr costus oedd yn arogli’n hyfryd wrth gael ei losgi oedd thus. Powdr costus arall oedd yn cael ei ddefnyddio i wneud persawr oedd myrr. 12Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma’r gwŷr doeth yn teithio yn ôl i’w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.
Dianc i’r Aifft
13Ar ôl iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! Dos â’r plentyn a’i fam i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. Mae Herod yn ceisio dod o hyd i’r plentyn er mwyn ei ladd.”
14Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gyda’r plentyn a’i fam. 15Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwy’r proffwyd yn wir: “Galwais fy mab allan o’r Aifft.”#Hosea 11:1
16Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wedi’i dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a’r cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed – hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wedi’i ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i’r golwg. 17A dyna sut daeth geiriau y proffwyd Jeremeia yn wir:
18 “Mae cri i’w chlywed yn Rama,
sŵn wylo chwerw a galaru mawr –
Rachel yn crio am ei phlant.
Mae’n gwrthod cael ei chysuro,
am eu bod nhw wedi mynd.” #
Jeremeia 31:15
Mynd i fyw i Nasareth
19Pan fuodd Herod farw, cafodd Joseff freuddwyd arall yn yr Aifft. Gwelodd angel yr Arglwydd 20yn dweud wrtho, “Dos â’r plentyn a’i fam yn ôl i wlad Israel. Mae’r bobl oedd am ei ladd wedi marw.”
21Felly dyma nhw’n mynd yn ôl i wlad Israel. 22Ond pan glywodd Joseff mai Archelaus, mab Herod, oedd llywodraethwr newydd Jwdea, roedd ganddo ofn mynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd eto, a throdd i gyfeiriad Galilea, 23a mynd i fyw i dref Nasareth. Felly daeth yr hyn ddwedodd y proffwydi am y Meseia yn wir unwaith eto: “Bydd yn cael ei alw yn Nasaread.”#2:23 Bydd yn cael ei alw yn Nasaread: Does neb yn gwybod pwy oedd y proffwyd ddwedodd hyn.#Marc 1:24; Luc 2:39; Ioan 1:45
Dewis Presennol:
:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023