Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Haggai 2

2
Gogoniant y Deml Newydd
1Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai: 2“Dywed wrth Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac wrth Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, 3‘A adawyd un yn eich plith a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? Sut yr ydych chwi yn ei weld yn awr? Onid megis dim yn eich golwg? 4Yn awr, ymgryfha, Sorobabel,’ ” medd yr ARGLWYDD, “ ‘ac ymgryfha, Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir,’ ” medd yr ARGLWYDD. “ ‘Gweithiwch, oherwydd yr wyf fi gyda chwi,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd, 5“ ‘yn unol â'r addewid a wneuthum i chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft. Y mae fy ysbryd yn aros yn eich plith; peidiwch ag ofni.’ ” 6Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Unwaith eto, ymhen ychydig, yr wyf am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r sychdir, 7ac ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd; daw trysor yr holl genhedloedd i mewn, a llanwaf y tŷ hwn â gogoniant,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. 8“Eiddof fi yr arian a'r aur,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. 9“Bydd gogoniant y tŷ diwethaf hwn yn fwy na'r cyntaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd; “ac yn y lle hwn rhof heddwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
Y Proffwyd yn Ymgynghori â'r Offeiriaid
10Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis yn ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Haggai. 11Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gofynnwch fel hyn i'r offeiriaid am gyfarwyddyd: 12‘Os dwg un ym mhlyg ei wisg gig wedi ei gysegru, a gadael i'r wisg gyffwrdd â bara, neu gawl, neu win, neu olew, neu unrhyw fwyd, a fyddant yn gysegredig?’ ” Atebodd yr offeiriaid, “Na fyddant.” 13Yna dywedodd Haggai, “Os bydd rhywun sy'n halogedig oherwydd cysylltiad â chorff marw yn cyffwrdd â'r rhain, a fyddant yn halogedig?” Atebodd yr offeiriaid, “Byddant.” 14Yna dywedodd Haggai, “ ‘Felly y mae'r bobl hyn, a'r genedl hon ger fy mron,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a hefyd holl waith eu dwylo; y mae pob offrwm a ddygant yma yn halogedig.’ ”
15“Yn awr, ystyriwch sut y bu hyd at y dydd hwn. Cyn rhoi carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD, sut y bu? 16Dôi un at bentwr ugain mesur, a chael deg; dôi at winwryf i dynnu hanner can mesur, a chael ugain. 17Trewais chwi, a holl lafur eich dwylo, â malltod, llwydni a chenllysg, ac eto ni throesoch ataf,” medd yr ARGLWYDD. 18“Yn awr ystyriwch sut y bydd o'r dydd hwn ymlaen, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, dydd gosod sylfaen teml yr ARGLWYDD; ystyriwch. 19A fydd had eto yn yr ysgubor? A fydd y winwydden, y ffigysbren, y pomgranadwydden a'r olewydden eto heb roi dim? O'r dydd hwn ymlaen fe'ch bendithiaf.”
Addewid yr ARGLWYDD i Sorobabel
20Daeth gair yr ARGLWYDD at Haggai eilwaith ar bedwerydd dydd ar hugain y mis: 21“Dywed wrth Sorobabel, llywodraethwr Jwda, ‘Yr wyf fi am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear; 22dymchwelaf orsedd brenhinoedd, dinistriaf gryfder teyrnasoedd y cenhedloedd, a dymchwelaf gerbydau a marchogion; bydd ceffylau a'u marchogion yn syrthio, pob un trwy gleddyf ei gyfaill. 23Yn y dydd hwnnw,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ ‘fe'th gymeraf di Sorobabel fab Salathiel, fy ngwas,’ ” medd yr ARGLWYDD, “ ‘ac fe'th wisgaf fel sêl-fodrwy, oherwydd tydi a ddewisais,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Dewis Presennol:

Haggai 2: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd