Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Zechariah 6

6
PEN. VI.—
1A thrachefn mi a godais fy ngolwg ac a edrychais; ac wele bedwar cerbydau yn myned allan oddirhwng y ddau fynydd: a’r mynyddoedd oeddent fynyddoedd pres. 2Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion: yn yr ail gerbyd meirch duon: 3Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion: ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion#amryliw. Vulg. cryfion.#heinif. drudwsog. LXX. 4A mi a aethum rhagof i ddywedyd wrth y genad oedd yn ymddyddan â mi, beth yw y rhai hyn fy arglwydd.#Arglwydd. LXX. 5A’r genad a atebodd ac a ddywedodd wrthyf: y rhai hyn ydynt bedwar ysbrydion#gwyntoedd. LXX. Vulg. y nefoedd; yn myned allan o#i sefyll. LXX. sydd yn. Syr. fel y safont. Vulg. sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear. 6Yr hwn y mae y meirch duon ynddo, hwy sydd yn myned allan i dir y gogledd; a’r gwynion a aethant allan ar eu hol#o’r tu ol iddynt. hwynt: a’r brithion a aethant allan i dir y deheu. 7A’r cryfion#bywiog. drudwsog. LXX. cochion. Syr. Dathe. a aethant allan ac a geisiasant#edrychasant am. LXX. fyned i gerdded trwy#o gylch y. LXX. y ddaear; ac efe a ddywedodd, ewch, cerddwch trwy y ddaear: a hwy a gerddasant trwy y ddaear. 8Ac efe a waeddodd#alwodd arnaf. Vulg. arnaf; ac a lefarodd wrthyf gan ddywedyd: edrych, y rhai sydd yn myned allan i dir y gogledd a lonyddasant#wnaethant i’m—orphwys. Vulg. fy ysbryd#fy nig. LXX. yn nhir y gogledd.
9A bu gair yr Arglwydd ataf gan ddywedyd: 10Cymer gan y gaethglud, gan Cheldai,#y blaenoriaid. LXX. gan Tobiah,#ei rhai defnyddiol hi. LXX. a chan Jedaiah,#y rhai a’i hadwaenant hi. LXX. a dos di ar y dydd hwnw, a dos i dŷ Josiah, mab Sephania lle#yr hwn a ddaeth o. LXX. y daethant o Babylon. 11A chymer arian ac aur, a gwna goronau,#goron. Syr. a gosod ar ben Jehoshuah yr offeiriad mawr. 12A thi a ddywedi wrtho gan ddywedyd; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd:
Wele ŵr, Blaguryn#codiad, dwyrain. LXX. Syr. Vulg. ei enw,
O obry iddo#o’i isle, iselfa, iseledd. o i lawr, o obry. Syr. a thano. Vulg. odditano y cyfyd LXX. y Blagura;
Ac yr adeilada deml yr Arglwydd.
13Ac efe a adeilada deml yr Arglwydd:
Ac efe a ddwg ogoniant;#addurn, prydferthwch. dderbyn wrhydri neu rinwedd. LXX.
Ac a eistedd ac a lywodraetha ar ei orsedd;
A bydd yn offeiriad ar ei orsedd;#a bydd offeir. — ar y ddeheu iddo. LXX.
A chynghor heddwch fydd rhyngddynt eill dau.#y ddau hyny. Vulg.
14A’r coronau#a’r goron. LXX. Syr. a fyddant yn nheml yr Arglwydd yn goffadwriaeth:#salm neu foliant. LXX.
I Cheleu,#i’r rhai sydd yn ymaros. LXX. ac i Tobiah,#ei rhai defnyddiol hi. LXX. ac i Jedaiah,#i’r rhai a’i hadwaenant hi. LXX. ac i Chên,#yn brydferthwch i fab. LXX. i Joshia. Syr. Chem. Vulg. mab Sephaniah.
15A phellenigion#pell oddiwrthynt. LXX. a ddeuant ac a adeiladant yn nheml yr Arglwydd;
A chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd#Hollalluog. LXX. a’m hanfonodd atoch:
Ac fe#hyn a fydd. Vulg. atoch os gwrandewch. Syr. fydd os gan wrando y gwrandewch;
Ar lais yr Arglwydd eich Duw.

Dewis Presennol:

Zechariah 6: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda