Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Zechariah 11

11
PEN. XI.—
1Agor, Lebanon, dy ddorau:#byrth. Vulg.
Ac ysed tân yn dy gedrwydd.
2Cwynfana ffinydwydden,
Canys cwympodd cedrwydd;
Difrodwyd y rhai ardderchog:#mawr drallodwyd y mawrion. LXX.
Cwynfenwch dderw Bashan;
Canys syrthiodd#torwyd. Vulg. y goedwig amgauedig.#ddiogel. ddiffynedig. Vulg. blanedig. LXX. gref. Syr.
3Y mae llais cwynfan y bugeiliaid;
Canys difrodwyd eu hardderchowgrwydd hwynt:
Y mae swn rhuad cenawon llewod;
Canys difrodwyd balchder#cryfder. Syr. yr lorddonen.
4Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd fy Nuw:#Hollalluog. LXX.
Bugeilia#bugeiliwch. LXX. ddefaid y lladdfa.#cyfyng, bychain neu truein. Syr.
5Y rhai y gwna eu perchenogion eu lladd,
Ac ni bydd euogrwydd#nid edifarasant. LXX. nis gofidiasant. Vulg. nid ydynt yn feius. Syr. arnynt;
A’u gwerthwyr a ddywedant;#ddywed. Hebr.
Bendigedig fyddo yr Arglwydd;
A mi a gyfoethogir:#cyfoethogwyd ni. LXX. Vulg.
A’u bugeiliaid ni thosturiant#ni thosturia. Hebr. ni theimlant ddim atynt. LXX. wrthynt.
6Canys#am hyny. LXX. ac. Vulg. ni thosturiaf mwyach wrth drigolion y wlad,
Medd yr Arglwydd:
Ac wele fi yn gwneuthur i’r dynion fyned,
Bob un yn llaw ei gymydog,#un yn llaw y llall.
Ac yn llaw ei frenin;
A drylliant y wlad;
Ac ni waredaf o’u llaw hwynt.
7A mi a fugeiliais#bugeiliaf. LXX. porthaf. Vulg. ddefaid. y lladdfa;#bychain. Syr.
Am hyny yn drueiniaid y defaid:#o herwydd hyn oh dlodion y defaid. Vulg. i dir Canaan. LXX. er mwyn cynulliad y defaid. Syr.
A chymerais i mi ddwy ffon,#gwialen. LXX. Vulg.
Un a elwais Hyfrydwch,#prydferthwch. LXX. Vulg.
Ac un a elwais Rhwymau;#dinystrwyr.
A mi a fugeiliais#fugeiliaf. LXX. y defaid.
8A mi a berais fyned o’r golwg#dinystriais, dorais ymaith. Vulg. gymeraf ymaith. y tri bugail mewn un mis:#lloer. Hebr. Syr.
A’m henaid a flinodd#gulhauwyd atynt. Vulg. a thrymheir—arnynt. LXX. arnynt;
A’u henaid hwy hefyd a’m ffieiddiodd#a ruasant. LXX. udasant. Syr. a newidiodd ataf. i.
9A dywedais Ni fugeiliaf chwi:
Yr hon sydd yn marw bydded farw,
A’r hon sydd guddiedig bydded guddiedig;#sydd yn methu, methed.
A’r gweddilledigion,
Ysant bob un gnawd eu gilydd.
10A chymerais#a chymeraf fy ngwialen hardd. LXX. fy ffon Hyfrydwch;#harddwch. Vulg.
Ac a’i torais#a’i taflaf ymaith. LXX. hi:
I ddiddimu#fel y diddimwn y cyf. Syr. fy nghyfamod;
Yr hwn a wnaethum â’r holl bobloedd.
11Ac efe a ddiddimwyd#ddiddimir. LXX. peidiodd. Syr. yn y dydd hwnw:
A gwybu felly#a’r Canaaneaid a adnabyddant y praidd a gedwir i mi. LXX. drueiniaid y defaid a ddysgwylient#a gadwent ataf. wrthyf;
Mai gair yr Arglwydd oedd hyn.#efe.
12A dywedais#dywedaf. LXX, wrthynt,
Os da yn eich golwg,
Rhoddwch fy nghyflog;
Ac os nad e, peidiwch:#neu o gwrthodwch fi. Syr.
A hwy a bwysasant#osodasant fy. LXX. yn gyflog i mi ddeg ar hugain#shecel 30. arian.
13A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Bwrw ef i’r crochenydd;#meinydd neu cerfiwr. Vulg. toddfa. LXX. drysorfa. Syr.
Gwych#hardd. Vulg. clodfawr a drud. Syr. gwelaf a’i cymeradwy ydyw, y modd y cymeradwywyd fi ganddynt. LXX. y pris â’r hwn y’m prisiwyd ganddynt:
A mi a gymerais y deg ar hugain arian;
A bwriais ef i dŷ yr Arglwydd i’r crochenydd.#doddfa. LXX.
14A thorais#teflais ymaith. LXX. fy ail ffon;
Y Rhwymau:
I ddiddymu y frawdoliaeth;#y ddalfa neu y meddiant. LXX. i beidio o’r cydfod. Syr.
Rhwng Judah ac Israel.
15A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf,
Cymer eto i ti;
Offer bugail#offer bugeilio bugail dibroflad. LXX. ffol.#drwg. anfedrus. Syr.
16Canys wele fi yn codi bugail yn y wlad,
A’r rhai sydd o’r golwg#methedigion. y rhai a adawwyd. Vulg. nis gofwya,
Y crwydrol#yr ieuainc. ni chais;
A’r ddrylliedig nis meddyga:
Yr hon sydd yn sefyll#y gref, yr iach. ni phortha;#ni thywys. LXX.
A chig y fras a fwyty;
A’u hewinedd#eu cymalau a dry o le. LXX. eu cluniau. Syr. a ddryllia.
17Gwae y bugail#oh y rhai a fugeiliant wagedd. LXX. oh fugail ac eilun. Vulg. diddim yn gadael#a adewaist y. Syr. y defaid;
Cleddyf#sychder. fydd ar ei#dy. Syr. fraich a’i lygad. deheu:
Ei fraich gan wywo a wywa;
A’i lygad deheu gan dywyllu#gan gael ei ddallu a ddellir. LXX. a dywylla.

Dewis Presennol:

Zechariah 11: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda