Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Datguddiad 9

9
A.D. 96. —
1 Seren yn syrthio o’r nef, wrth utganu o’r pumed angel, i’r hwn y rhoddwyd agoriad y pwll heb waelod: 2 yntau yn agoryd y pwll, a locustiaid fel ysgorpionau yn dyfod allan. 12 Y mae y wae gyntaf wedi myned heibio. 13 Y chweched utgorn yn canu: 14 a gollwng pedwar angel yn rhydd, y rhai oedd wedi eu rhwymo.
1A’r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o’r nef i’r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad #Luc 8:31; Pen 9:2, 11 Pen 17:8; Ad. 2, 11y pydew heb waelod. 2Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew. 3Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear awdurdod. 4A dywedwyd wrthynt, #Pen 6:6na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i’r dynion oedd heb #Pen 7:3 Edrych Exod 12:23; Esec 9:4sêl Duw yn eu talcennau. 5A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn. 6Ac yn y dyddiau hynny #Job 3:21; Esa 2:19; Pen 6:16y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt. 7A #Joel 2:4dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion. 8A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, #Joel 1:6a’u dannedd oedd fel dannedd llewod. 9Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel. 10Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a’u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis. 11Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef #Ad. 1angel y pydew diwaelod: a’i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw #9:11 Sef, dinistrydd.Apolyon. 12#Pen 8:13Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn. 13A’r chweched angel a utganodd; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd gerbron Duw. 14Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â’r utgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates. 15A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu paratoi #9:15 dros.erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent y traean o’r dynion. 16A #Salm 68:17; Dan 7:10rhifedi’r llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau: ac mi a glywais eu rhifedi hwynt. 17Ac fel hyn y gwelais i’r meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacinth a brwmstan: a phennau’r meirch oedd fel pennau llewod; ac yr oedd yn myned allan o’u safnau, dân, a mwg, a brwmstan. 18Gan y tri hyn y #9:18 lladdwyd.llas traean y dynion, gan y tân, a chan y mwg, a chan y brwmstan, oedd yn dyfod allan o’u safnau hwynt. 19Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys y cynffonnau oedd debyg i seirff, a phennau ganddynt; ac â’r rhai hynny y maent yn drygu. 20A’r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent #Lef 17:7; Deut 32:17; Salm 106:37; 1 Cor 10:20gythreuliaid, a #Salm 115:4; 135:15; Dan 5:23delwau aur, ac arian, a phres, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio: 21Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lladrad.

Dewis Presennol:

Datguddiad 9: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda