Datguddiad 6
6
A.D. 96. —
1 Agoryd y seliau, y naill ar ôl y llall; a pha beth a ddigwyddodd ar hynny: yr hyn sydd yn cynnwys proffwydoliaeth hyd ddiwedd y hyd.
1Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau, ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel trwst taran, Tyred, a gwêl. 2Ac mi a welais; ac wele #Sech 6:3; Pen 19:11farch gwyn: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu. 3A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. 4Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a’r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr. 5A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch du: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law. 6Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, #6:6 Choinix a arwyddocâ fesur yn cynnwys un peint gwin, a saith ddegfed ran peint.Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog; #Pen 9:4a’r olew a’r gwin, na wna niwed iddynt. 7A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. 8Ac mi a edrychais: ac wele farch #6:8 gwynlas.gwelw‐las: ac enw’r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd #6:8 iddo.iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwystfilod y ddaear. 9A phan agorodd efe y bumed sêl, mi a welais #Pen 8:3; 9:13; 14:18dan yr allor #Pen 20:4eneidiau’r rhai a laddesid #Pen 1:9am air Duw, ac am #Pen 19:10y dystiolaeth oedd ganddynt. 10A hwy a lefasant â llef #6:10 fawr.uchel, gan ddywedyd, #Edrych Sech 1:12Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear? 11A #Pen 3:4, 5; 7:9, 14gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd‐weision a’u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau. 12Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl; ac wele, bu daeargryn mawr; #Joel 2:10, 31; 3:15; Mat 24:29; Act 2:20a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a’r lleuad a aeth fel gwaed; 13A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae’r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hysgydwer gan wynt mawr. 14#Esa 34:4A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd; a #Jer 3:23; 4:24; Pen 16:20phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o’u lleoedd. 15A brenhinoedd y ddaear, a’r gwŷr mawr, a’r cyfoethogion, a’r pen‐capteiniaid, a’r gwŷr cedyrn, a phob gŵr caeth, a phob gŵr rhydd, #Esa 2:19a ymguddiasant yn yr ogofeydd, ac yng nghreigiau’r mynyddoedd; 16#Hos 10:8; Luc 23:30; Pen 9:6Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen: 17Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef; a phwy a ddichon sefyll?
Dewis Presennol:
Datguddiad 6: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society